Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Education, Youth & Culture Overview & Scrutiny Committee
and to inform the Committee of progress against actions from
previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol a ddiwygiwyd i gynnwys yr eitem ychwanegol ar Barcio ar Safleoedd Ysgol. Roedd hyn yn dilyn cais gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi a byddai Aelodau’r Pwyllgor hwnnw’n cael eu gwahodd i ymuno â’r cyfarfod ar gyfer yr eitem honno. Nid oedd unrhyw newidiadau pellach i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Gan gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod bob un o’r camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf wedi cael eu cynnwys. Eglurodd bod y cam gweithredu mewn perthynas â’r wybodaeth a geisiwyd gan y Cynghorydd Crease bellach wedi’i gwblhau. Yr unig gam gweithredu a oedd eto i’w gwblhau oedd yr ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie.
Yn dilyn y cyfarfod diwethaf, trefnwyd gweithdy gyda Swyddogion GwE ar gyfer dydd Llun, 5 Rhagfyr am 2.00 pm a byddai cadarnhad yn cael ei anfon dros e-bost at Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Diolchodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst i’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am ei hymateb i’w gais mewn perthynas â bwlch cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal. Roedd yn falch y bydd adolygiad o berfformiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn nes ymlaen eleni.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r camau gweithredu heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: