Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Community Housing & Assets Overview & Scrutiny Committee
and to inform the Committee of progress against actions from
previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol i gael ei ystyried, gan amlinellu’r diwygiadau arfaethedig canlynol:-
- Bod yr adroddiad ar Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru yn cael ei symud yn ôl cylchred ac yn cael ei adrodd yn y cyfarfod ar 16 Tachwedd;
- Bod diweddariad ar y System Cofrestru Adnoddau Deinamig yn cael ei symud o gyfarfod 16 Tachwedd i gyfarfod ar 8 Mawrth 2023; a
- Bod adroddiad ar gyllideb 2023-24, yn dilyn sesiynau briffio cyllideb portffolio’r Aelod, yn cael ei ychwanegu i gael ei ystyried yng nghyfarfod ar 16 Tachwedd 2022.
Dywedodd yr Hwylusydd bod y Cadeirydd wedi gofyn i bob Aelod o’r Cyngor os oedd ganddynt eitemau yr oeddynt yn teimlo y dylai’r Pwyllgor ei ystyried ac ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Mae rhestr o eitemau awgrymedig wedi’i greu ac roedd y rhain i’w gweld yn Atodiad 3. Dywedodd yr Hwylusydd, yn dilyn y cyfarfod, y byddai’n cysylltu â’r swyddogion a’r Cadeirydd i nodi sut y gellir eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Cafodd yr argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Dogfennau Atodol: