Manylion y penderfyniad

Council Plan Development 2023/24

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To agree the proposed Priorities, Sub Priorities and Well-being Objectives for the Council Plan 2023-28.

Penderfyniadau:

           

            Gan gyflwyno Adroddiad Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 a dywedodd nad oedd yn ofyniad statudol mwyach i baratoi Cynllun y Cyngor.   Roedd y Cynllun yn amlinellu sail y Cyngor ar gyfer bodloni gofynion perfformiad ac yn cynnwys cynlluniau cadarn yn amlinellu’r siwrnai i fodloni’r gofynion hynny.   Cyfeiriodd Aelodau at adran 1.02 o’r adroddiad, ac eglurodd sut cwblhawyd yr adolygiad.   Cyfeiriodd Aelodau at adran 1.04 o’r adroddiad a’r Atodiad a oedd yn amlinellu’r blaenoriaethau arfaethedig a fyddai’n cael eu hadolygu gan y Pwyllgor yn rheolaidd.   

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y diffiniadau dan Addysg a Sgiliau ac nid oedd yn gallu gweld unrhyw beth a oedd yn ymwneud yn benodol â chydraddoldeb o ran canlyniadau yn arbennig ar gyfer plant difreintiedig a’r rheiny sy’n mynd drwy’r system ofal.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at yr eitem gyntaf mewn perthynas ag Addysg a Chyflawniad, a dywedodd nad oedd hi’n gallu sicrhau cydraddoldeb o ran canlyniadau ar gyfer bob dysgwr.   Roedd cefndiroedd, profiadau a gallu gwybyddol bob dysgwr yn wahanol, a oedd yn cael effaith ar eu cyflawniad addysgol.   Rôl y cyngor a’r ysgol oedd darparu cyfleoedd cyfartal i bob dysgwr gan roi cyfle iddynt ymgysylltu gyda’r cynnig cwricwlwm a’r cynnig cwricwlwm ychwanegol ehangach ar iechyd a lles emosiynol.   

 

            Roedd y Cynghorydd Parkhurst yn derbyn bod hyn y tu hwnt i allu’r Cyngor, ond nid oedd yn gweld y dyhead na’r amcan, ac roedd yn bryderus na fyddai’n derbyn y sylw hanfodol.    Eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn amcan lefel uchel ac y byddai cyfres o dargedau arbennig o fewn Cynllun y Cyngor y gallai’r portffolio weithio tuag atynt.   Rhoddodd sicrwydd i’r Cynghorydd Parkhurst fod y targedau hynny’n adlewyrchu bob dysgwr o fewn Sir y Fflint ac yn rhoi ystyriaeth arbennig i anghydraddoldeb, a’i effaith ar addysg.   Dywedodd y byddai hi’n bwydo hyn yn ôl i sicrhau ei fod yn derbyn sylw priodol mewn modd ymarferol a hawdd i’w reoli.

 

Teimlai’r Cadeirydd yr ystyriwyd bod Sir y Fflint yn darparu cyfleoedd i wella hunanhyder, lles ac addysg ar gyfer ystod eang o bobl.   Diolchodd i bawb a oedd wedi bod ynghlwm â hyn, am fagu hyder, darparu llefydd diogel a pharatoi nifer o bobl i ehangu eu sgiliau er mwyn sicrhau cyflogaeth a gwella eu sgiliau bywyd a chymdeithasol.   Roedd effaith y gwaith hwn yn dechrau dod i’r amlwg yn y gymuned ehangach, ac roedd cydnabyddiaeth amlwg bod gwaith ar y cyd rhwng partneriaid wedi ehangu’r cynnig hwn.   Roedd y Cadeirydd yn cytuno gyda’r awgrym a wnaed gan y Cynghorydd Preece y byddai’r Pwyllgor yn elwa o weithdy Estyn ac awgrymodd y dylid cynnwys hyn yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd David Richardson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Blaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Jay Davies

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: