Manylion y penderfyniad

Council Plan 2023-28

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To agree the proposed Priorities, Sub Priorities and Well-being Objectives for the Council Plan 2023-28.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y blaenoriaethau sydd wedi’u hadnewyddu, is-flaenoriaethau ac amcanion lles yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28, a oedd yn adlewyrchu agwedd hirdymor adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod.

 

Cwestiynodd y Cadeirydd effaith swyddi gwag ar gyflawni is-flaenoriaethau ychwanegol o dan y flaenoriaeth ‘Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd.’  Cwestiynodd hefyd yr angen am is-flaenoriaethau o dan ‘Cyngor a Reolir yn Dda’ a oedd yn ei farn ef naill ai’n ofynion statudol, yn rhan o gynllunio dyddiol neu fusnes fel arfer, gan gynnwys Digidol a adlewyrchwyd mewn rhan arall o Gynllun y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y newidiadau’n briodol ac yn dangos gwelededd ar gyflawni’r ffrydiau gwaith hynny. Atgoffwyd yr aelodau mai dogfen gryno lefel uchel oedd hon gyda manylion pellach i’w hadrodd yn Rhan 2 o Gynllun y Cyngor.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cadeirydd, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod is-flaenoriaethau’r thema Cymdeithas Werdd yn ymgorffori dyletswyddau statudol newydd ar gyfer y Cyngor. Rhoddodd hefyd eglurhad ar wahanol ffrydiau gwaith digidol yn ymwneud â’r gweithlu, trigolion ac ysgolion ar draws y blaenoriaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson mai’r nod ar hyn o bryd yw cytuno ar benawdau ar gyfer y blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau cyn i fwy o wybodaeth gael ei rhannu. Siaradodd am bwysigrwydd nodi dyheadau’r Cyngor, gan gynnwys gweithgareddau bob dydd.

 

O ran yr is-flaenoriaeth Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd, holodd y Cadeirydd a ddylid disodli’r gair ‘osgoi’ â ‘sicrhau’. O ran Tai Cymdeithasol, awgrymodd y dylid dileu’r geiriau ‘a thai cymdeithasol’ o’r diffiniad er mwyn osgoi ailadrodd gyda’r pennawd. O ran Carbon Niwtral, cwestiynodd a ddylid cynnwys cyfeiriad at adferiad Covid-19.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y geiriad ar gyfer Atal Digartrefedd wedi’i adolygu i adlewyrchu newidiadau mewn gwasanaeth a pholisi Llywodraeth Cymru. Dywedodd y byddai’r sylwadau a godwyd yn cael eu hadolygu.

 

Ar y sail honno, cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y sylwadau, bod y Pwyllgor yn cefnogi Blaenoriaethau, Is-Flaenoriaethau ac Amcanion Lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel y nodir yn Atodiad 1.

Awdur yr adroddiad: Jay Davies

Dyddiad cyhoeddi: 23/12/2022

Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: