Manylion y penderfyniad

Capital Programme 2023/24 – 2025/26

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To present the Capital Programme 2023/24 – 2025/26 for recommendation to Council.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn manylu ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023/24-2025/26 i’w hargymell i’r Cyngor.

 

Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer yr hirdymor er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Mae’r asedau’n cynnwys adeiladau (megis ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd), isadeiledd (megis priffyrdd a rhwydweithiau TG) ac asedau nad ydynt yn eiddo i’r Cyngor (megis gwaith i wella ac addasu cartrefi’r sector preifat). Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau busnes gwasanaethau portffolio a Chynllun y Cyngor.

 

Roedd yr adnoddau cyfalaf a gaiff y Cyngor gan Lywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor yn gyfyngedig. Fodd bynnag, roedd ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf trwy fenthyca. Dros dro oedd hynny ac yn y pen draw, byddai cost ad-dalu unrhyw fenthyciad yn cael ei dynnu o gyllideb refeniw’r Cyngor. Roedd cynlluniau sy’n cael eu hariannu trwy fenthyca yn cael eu hystyried yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol - dyraniadau i gynnwys gwaith rheoleiddiol a statudol.

2.    Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

3.    Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau er mwyn cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau, fel yr amlinellir yng Nghynllun y Cyngor. 

 

Yn hanesyddol, caiff y rhan fwyaf o raglen y Cyngor ei hariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau. Roedd gallu’r Cyngor i greu derbyniadau cyfalaf sylweddol yn heriol, gan fod yr asedau oedd ar gael i’w gwaredu gan y Cyngor yn lleihau. Bydd y Cyngor yn manteisio ar bob cyfle posibl i nodi asedau i’w gwerthu a ffynonellau eraill o arian, fel grantiau penodol a chyfraniadau refeniw. Fodd bynnag, byddai angen i’r Cyngor ddefnyddio benthyca darbodus i ariannu mwy o’r rhaglen wrth symud ymlaen. Yn benodol, byddai angen i’r rhaglen Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a chynlluniau eraill sydd wedi’u cynnwys o fewn y rhaglen fuddsoddi gael eu hariannu trwy fenthyca darbodus.

 

Cafodd y Strategaeth Gyfalaf ei diweddaru a’i chyflwyno ar wahân ar y rhaglen.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, lle codwyd pryderon ynghylch cyllid cyfalaf a’r effeithiau posibl ar y gyllideb refeniw.   Rhoddwyd lefel o sicrwydd ar y rhaglen gyfalaf a chafwyd trafodaeth fanwl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 yr adroddiad ar gyfer yr adrannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau a Gedwir yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2023/24 – 2025/26;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynlluniau a gaiff eu cynnwys yn Nhabl 4 yr adroddiad ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2023/24 – 2025/26;

 

(c)        Nodi fod y diffyg o ran ariannu’r cynlluniau yn 2024/25 yn Nhabl 5 yr adroddiad ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau, gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ail-drefnu cynlluniau yn rhai fesul cam, yn cael eu hystyried yn ystod 2023/24 ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a

 

(d)       Chymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 yr adroddiad ar gyfer adran Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor sy’n cael ei hariannu’n benodol, a ariennir yn rhannol trwy fenthyca.

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 22/11/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/11/2022 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/12/2022

Accompanying Documents: