Manylion y penderfyniad

Audit Wales Review of Commissioning Older People's Care Home Placements by North Wales Councils and Betsi Cadwaladr University Health Board

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To acknowledge the Audit Wales Report and note the recommendations in the Older People’s Care Home Placements report.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar ganlyniad adolygiad Archwilio Cymru o Gomisiynu Lleoliadau Cartrefi Gofal i Bobl H?n gan gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Rhoddodd gefndir ar y trefniadau ar gyfer yr adolygiad, gyda'r diben yn tynnu sylw at nifer o bwysau parhaus o fewn gofal cymdeithasol. Roedd ymgysylltu helaeth ag Archwilio Cymru a chydweithwyr BIPBC wedi arwain at gyhoeddi’r adroddiad terfynol a oedd yn adlewyrchu golwg fwy cytbwys ar y sefyllfa ar draws Gogledd Cymru.

 

Wrth dynnu sylw at rôl y Pwyllgor, dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Darparodd yr Uwch Reolwr eglurhad manwl o'r gwaith a wnaed hyd yma i fynd i'r afael â'r pum argymhelliad gan Archwilio Cymru, ynghyd â dyddiadau cau diwygiedig ar gyfer cwblhau.

 

Eglurodd Gwilym Bury o Archwilio Cymru ei bod yn ofynnol i gynghorau a byrddau iechyd yng Nghymru gyflawni eu cyfrifoldebau statudol o fewn y fframwaith cyfreithiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC). Siaradodd am y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â strwythurau ffioedd a bennir yn genedlaethol a’u heffaith ar unigolion. Er y byddai'r cynllun gweithredu ar gyfer Gogledd Cymru yn helpu i fynd i'r afael â materion lleol, amlygodd adroddiad cenedlaethol ar wahân i LlC yr angen am ymyrraeth i osgoi parhad ac uwch gyfeirio materion mwy sylfaenol. Fel y nodwyd mewn adroddiad blaenorol, roedd Archwilio Cymru o’r farn nad oedd y trefniant cronfa gyfun bresennol i gefnogi’r gwaith o gyflawni swyddogaethau llety cartrefi gofal ar draws y rhanbarth yn darparu gwerth am arian nac unrhyw un o’r buddion arfaethedig sy’n gysylltiedig â’r model cronfa gyfun. Fodd bynnag, barn cynghorau Gogledd Cymru a BIPBC oedd bod y trefniadau yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau. Diolchwyd i'r swyddogion am eu cyfraniadau i'r adolygiad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Parchedig Brian Harvey ar recriwtio a chadw yn y sector gofal, siaradodd yr Uwch Reolwr am lwyddiant y broses recriwtio ar sail gwerth mewn cydweithrediad â phartneriaid. Pan ofynnwyd iddi am yr hyn a ddysgwyd o’r adolygiad, dywedodd fod cynnal perthnasoedd gwaith agos â darparwyr gofal yn ffactor allweddol mewn cynllunio strategol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks fod yr adroddiad yn cydnabod y gwaith sylweddol a chymhleth a wneir gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth. Bu iddo sôn am y potensial ar gyfer mwy o gydweithio a chyfleoedd ar gyfer newid y mae LlC yn dylanwadu arnynt.

 

Mewn ymateb i sylwadau ar weithredu argymhellion, dywedodd Gwilym Bury y byddai cynnydd yn cael ei adolygu ar gam priodol a bod adolygiad dilynol o drefniadau ar draws Cymru gyfan yn debygol. Er bod y rhan fwyaf o gynghorau a byrddau iechyd yng Nghymru yn anghytuno â barn Archwilio Cymru ar y dull o ymdrin â threfniadau cyfuno cyllid, roedd cytundeb ar y cyd ar yr angen am newid cenedlaethol i ddatrys problemau cyllid cymhleth sy’n bod ers amser maith o fewn y system bresennol.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd yr Uwch Reolwr eglurhad ar drefniadau llywodraethu ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a chysylltiadau â Throsolwg a Chraffu. Yn ystod y drafodaeth ar y farchnad cartrefi gofal, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y sefyllfa leol a’r camau sy’n cael eu cymryd i gryfhau’r ddarpariaeth.

 

O ran cyfuno cyllid, gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am ymateb swyddog ar y pryderon a godwyd gan Archwilio Cymru. Eglurodd yr Uwch Reolwr y dull gweithredu rhanbarthol a ategwyd gan gytundebau cyn-lleoliad a pherthynas gref gyda darparwyr gofal i roi sicrwydd o werth am arian. Siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am yr heriau o ran lleihau costau ar gyfer darpariaeth gofal.

 

Fel Arweinydd y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylai arian a godwyd gan Sir y Fflint gael ei wario ar bobl a chyfleusterau lleol. Siaradodd am ehangu darpariaeth cartrefi gofal ar draws y Sir a pherthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda darparwyr gofal. O ran cyfuno cyllid, tynnodd gymhariaeth â threfniant tebyg gyda GwE (y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol).

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr adroddiad diweddaraf ar sefydlogrwydd y farchnad a ystyriwyd gan y Cyngor Sir y diwrnod blaenorol, a fyddai'n helpu i lywio gweithgareddau yn y dyfodol o ran creu gwytnwch a sefydlogrwydd yn y sector gofal yn Sir y Fflint.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a'u heilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

Ar yr ail argymhelliad, cytunodd Gwilym Bury i drosglwyddo cais y Cadeirydd i ddiweddariadau gynnwys unrhyw gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, ynghyd ag amserlenni, yn dilyn adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r argymhellion yn Adolygiad Archwilio Cymru ar Gomisiynu Lleoliadau Cartref Gofal Pobl H?n gan Gynghorau Gogledd Cymru; a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn Ymateb y Rheolwyr i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn ac yn cael diweddariadau rheolaidd ar weithrediad y camau gweithredu wrth symud ymlaen.

Awdur yr adroddiad: Jay Davies

Dyddiad cyhoeddi: 23/12/2022

Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/09/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Accompanying Documents: