Manylion y penderfyniad

Climate Change Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To report on progress with the Climate Change Strategy for 2022-2030.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad ar y cynnydd gyda’r Strategaeth Newid Hinsawdd sydd wedi cael ei fabwysiadu gan y Cabinet yn Chwefror 2022.   Roedd y cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd yn amlinellu’r cynnydd wrth greu Cyngor carbon sero net erbyn 2030 ac wedi’i rannu yn themâu allweddol.   Yn ogystal â phenodi swyddog profiadol, byddai sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd (o’r cyn Fwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd) yn helpu i fewnosod newid hinsawdd ar draws y sefydliad.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Alex Ellis, y Rheolwr Rhaglen Lleihau Carbon a Newid Hinsawdd, a wnaeth cyflwyniad yn cynnwys:

 

·         Cyd-destun

·         Cyflawniadau hyd yma

·         Datblygiad y Strategaeth - llinell sylfaen ac ymrwymiad

·         Cynllun Gweithredu Di-garbon Net

·         Adnodd Staff Presennol

·         Strwythur Llywodraethu

·         Llinell Amser hyd at 2030

·         Adroddiad Cynnydd 2021/22

·         Argymhellion

·         Blaenoriaethau ar gyfer 2023-24

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Parch Brian Harvey, siaradodd y Rheolwr Rhaglen am yr ymwybyddiaeth cyhoeddus cynyddol o’r problemau ymysg pobl ifanc a’r cynlluniau i ymrwymo ymhellach.   Cyfeiriodd y Prif Swyddog at weithio gyda phartneriaid a chyn weithdai Aelodau i hyrwyddo newid positif.

 

Yn dilyn cwestiwn gan Allan Rainford ar benderfyniadau buddsoddi, cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at waith rhagweithiol i adnabod cyfleoedd ariannu yn cynnwys prosiectau ar y cyd a dewisiadau Buddsoddi i Arbed, er mwyn cyflawni buddion canolig i hirdymor.   Mae cyflwyno’r hyfforddiant llythrennedd carbon i Aelodau Etholedig ac uwch reolwyr yn helpu rhanddeiliaid i ddeall y buddion o’r buddsoddiadau.

 

Fel Is-gadeirydd o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, fe gyfeiriodd y Cynghorydd Allan Marshall at yr arbedion â gyflawnwyd drwy reoli tymheredd gwresogi yn yr adeiladau.   Mae’r Rheolwr Rhaglen yn cyfeirio at y mesurau rheoli tymheredd mewn stoc adeiladau annomestig a chadarnhaodd fod eiddo domestig y Cyngor heb eu cynnwys yn sgôp y data allyriadau carbon.

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) sylwadau ar gamau gweithredu i leihau allyriadau carbon o weithgareddau caffael a oedd wedi cynyddu yn ystod 2021/22.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at yr angen am fwy o eglurhad ar y cerrig milltir yn y cynllun gweithredu i gyflawni’r nodau yn y strategaeth, a nodwyd hynny gan y Rheolwr Rhaglen.   Wrth ymateb i’r pryderon am y lefel o ffocws ar gaffael, cyfeiriwyd at y fethodoleg ar adrodd ar allyriadau carbon sydd wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am fynychu ac am y cyflwyniad manwl.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi gan y Pwyllgor;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwelliannau i gyfathrebu mewnol er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynnydd cadarnhaol y Cyngor wrth symud ymlaen at gyflawni ei uchelgeisiau newid hinsawdd;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o gychwyn ymwreiddio mesurau carbon i mewn i brosesau caffael o fewn portffolio peilot y Cyngor;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r achos dros swydd ac adnoddau Buddsoddi i Arbed er mwyn cyflwyno Systemau Rheoli Adeiladau o fewn mwy o’n hadeiladau, i wella’r broses o reoli’r defnydd o ynni; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o ymwreiddio egwyddorion newid hinsawdd drwy’r Cyngor cyfan, drwy gyflwyno hyfforddiant Llythrennedd Carbon i Aelodau Etholedig, Uwch Reolwyr a swyddogion eraill sy’n gwneud penderfyniadau allweddol.

Awdur yr adroddiad: Alex Ellis

Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/01/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Accompanying Documents: