Manylion y penderfyniad

School Reserve Balances year ending 31 March 2022

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide the Committee with details of the closing balances held by Flintshire schools at the end of the financial year.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Ysgolion) yr adroddiad blynyddol ar gronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint a’r risgiau a’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion sydd mewn diffyg.

 

O gymharu â’r flwyddyn flaenorol, bu cynnydd sylweddol yn lefelau’r cronfeydd wrth gefn ar draws pob sector ar 31 Mawrth 2022 (fel yr atgynhyrchwyd ledled Cymru), i gyd-fynd â nifer o grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC) a ddyfarnwyd i gydnabod effaith y pandemig ar ddysgwyr. Er y croesawyd hyn, roedd nifer o grantiau a ddyfarnwyd yn hwyr wedi chwyddo cronfeydd wrth gefn ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn. Dangosodd dadansoddiad o dueddiadau’r newid i gronfeydd wrth gefn yn cynyddu o 2020, a briodolwyd yn bennaf i symiau sylweddol o arian grant LlC yn ystod y pandemig.

Roedd yn bwysig cydnabod, er bod lefelau cyffredinol y cronfeydd wrth gefn yn giplun bryd hynny ac yn amodol ar amrywiadau, roedd cyd-destun cefndirol i bob ysgol unigol gyflawni'r cydbwysedd cywir o ran sicrhau nad oedd lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn ormodol ond yn gronfeydd wrth gefn digonol gyda phwrpas clir. Rhoddwyd trosolwg o'r broses o fonitro lefelau cronfeydd wrth gefn ysgolion ynghyd â chrynodeb o ymatebion gan ysgolion ar falansau dros 5% o'r argymhelliad cyllideb ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar feini prawf yn ymwneud â chyllid grant a'r adolygiad parhaus o'r fformiwla cyllido.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Andrew Parkhurst, byddai'r protocol ar gyfer ysgolion sydd mewn trafferthion ariannol yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor i ddangos y camau sydd ynghlwm â gwneud cais am ddiffyg trwyddedig. Fe'i hysbyswyd hefyd am gymorth i ysgolion reoli cyllidebau a rhagamcanion costau gan gynnwys ynni nad oedd yr effaith ar gyfer y flwyddyn nesaf yn hysbys eto.

 

Wrth ddiolch i'r Rheolwr Cyllid Strategol am ei hadroddiad manwl, cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at y fformiwla cyllido gymhleth ac effaith y cynnydd a ragamcanwyd yn nifer y disgyblion uwchradd sy'n cyd-daro â gostyngiad ar lefel gynradd. Siaradodd am y flaenoriaeth i gynnal cwricwlwm cytbwys eang a chroesawodd gyfraniadau ariannol gan LlC tuag at gyllidebau ysgolion o ganlyniad i’r pandemig.

 

Wrth groesawu'r sefyllfa well o ran cronfeydd wrth gefn, gofynnodd y Cadeirydd am y broses ar gyfer ymdrin ag ysgolion â lefelau uwch o gronfeydd wrth gefn. Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol sicrwydd fod gwybodaeth o safon yn cael ei darparu gan ysgolion, ond bod her gadarn lle y bo angen. Tynnodd sylw at yr angen i ganiatáu amser i ysgolion ddefnyddio cyllid LlC i gefnogi adferiad o’r pandemig.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey a’r Cynghorydd Andrew Parkhust.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi balansau cronfeydd wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth 2022.

Awdur yr adroddiad: Liz Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 23/12/2022

Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/09/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Accompanying Documents: