Manylion y penderfyniad
Capital Programme 2023/24 – 2025/26
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the Capital Programme 2023/24 - 2025/26 for review.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023/24 - 2025/26 a oedd yn nodi buddsoddiadau hirdymor mewn asedau i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian, wedi ei rannu rhwng y tair adran: Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad. Rhoddodd gyflwyniad yn cynnwys y canlynol:
· Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor
· Rhaglen Gyfredol 2022/23 - 2024/25
· Cyllid a Ragwelir 2023/24 - 2025/26
· Dyraniadau Arfaethedig – Statudol/ Rheoleiddiol, Asedau wrth Gefn a Buddsoddiad
· Crynodeb o’r Rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol
· Cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol
· Crynodeb Rhaglen Gyfalaf
· Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol
· Y Camau Nesaf
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge nad oedd yn gallu cefnogi’r rhaglen o ystyried sefyllfa’r gyllideb refeniw. Ar ail-ddatblygu Theatr Clwyd, eglurwyd y byddai’r £1.5 miliwn ychwanegol wedi’i ariannu gan y Rhaglen Gyfalaf graidd heb unrhyw ofyniad benthyca ychwanegol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y Gronfa Codi’r Gwastad, ac os fyddai’n llwyddiannus byddai’n darparu ystod o fuddion ar draws y Sir. Dywedodd y gallai’r Cyngor golli allan os na fyddai’n rhoi cynigion ymlaen ar gyfer cynlluniau.
Wrth gydnabod y pwynt, pwysleisiodd y Cadeirydd ei safbwynt na ddylai pwysau refeniw gynyddu heb wybod lle byddai arbedion effeithlonrwydd pellach yn gallu cael eu cyflawni. Yn sgil y rheswm hwnnw, cynigodd diwygiad i’r Argymhellion 1, 2 a 4 ar gyfer y Pwyllgor i’w hystyried a rhoi adborth, yn hytrach na chefnogi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.
Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) fod gwaith sylweddol wedi cael ei gyflawni i ddatblygu’r Rhaglen Gyfalaf a oedd yn gallu cael ei ddarparu a gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r egwyddorion. Dywedodd fod y pwysau eisoes wedi cael ei adeiladu i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ac ni fyddai’n cynyddu’r gofyniad benthyca. Yn ogystal â hynny, roedd sylwadau’n cael eu gwneud i gynyddu cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru, a phe byddai’n llwyddiannus, byddai’n lleihau pwysau refeniw.
Cynigiodd y Cynghorydd Dolphin ddiwygiad bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Vicky Perfect.
Eglurodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) y byddai prosiect Croes Atti yn helpu i fodloni’r galw uchel cynyddol ar gyfer gofal cymdeithasol fel y nodwyd yn yr adroddiad rhanbarthol, ac os na fyddai’n cael ei symud ymlaen, byddai canlyniadau refeniw o brynu’r comisiynu gofal.
Gan fod y diwygiad wedi’i gynnig a’i eilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
(a) Cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2023/24-2025/26;
(b) Cefnogi’r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.31) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2023/24-2025/26;
(c) Yn nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2024/25 yn Nhabl 5 (paragraff 1.37) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca fesul cam dros nifer o flynyddoedd yn cael eu hystyried yn ystod 2023/24, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol.
(d) Cefnogi’r cynlluniau yn Nhabl 6 (paragraff 1.41) ar gyfer adran a ariennir yn benodol Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor a fydd yn cael eu hariannu’n rhannol drwy fenthyca; a
(e) Bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn i’r Cyngor ystyried yr adroddiad ar Raglen Gyfalaf 2023/24 - 2025/26.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 09/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: