Manylion y penderfyniad
Climate Change Committee
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To approve the Terms of Reference for the Climate Change Committee.
Penderfyniadau:
Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor, pan gytunwyd i sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, a dywedodd bod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor hwn wedi’i leoli yn Atodiad 1 yr adroddiad. Darparwyd diwygiad bach i’r Cylch Gorchwyl ynghyd â chadarnhad ei fod yn bwyllgor anstatudol, ond bod y Cyngor wedi cytuno y byddai’n gytbwys yn wleidyddol. Trefnwyd y cyfarfod cyntaf ar gyfer 22 Tachwedd, a gofynnwyd bod y Cyngor yn penodi Cadeirydd ar gyfer y pwyllgor, i gytuno a ddylai’r Cadeirydd gael tâl am y rôl ac i gytuno gyda’r Cylch Gorchwyl.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Amgylchedd Cynllunio ac Economi) drosolwg o ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Cabinet yn 2019 y byddai’r Cyngor Sir yn dod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru. Rhoddodd wybodaeth ar benodiad Alex Ellis, Cydlynydd Newid Hinsawdd, ac amlinellodd y gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd. Dywedodd y byddai’r Pwyllgor yn bwyllgor ymgynghorol i hysbysu’r Cabinet ar y camau gweithredu sy’n ofynnol i gyrraedd y targed o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Cytunwyd ar y Cynllun Gweithredu a Strategaeth ym mis Chwefror 2022, ac eglurodd sut y byddai’r pwyllgor hwn yn cydweithio ar draws y Cyngor, a chyda phartneriaid busnes eraill i gyflawni’r nod hwnnw o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Bu i Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden gynnig argymhelliad y Cylch Gorchwyl, fel y’i diwygiwyd. Hefyd cynigiodd bod Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cael tâl. Enwebodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Roedd yn teimlo’n hyderus gyda’r Cynghorydd Ibbotson fel Cadeirydd, ynghyd ag Aelod Cabinet Newid Hinsawdd ac Economi, y byddent yn gallu symud y gwaith pwysig oedd ei angen ymlaen. Cafodd hyn ei eilio gan Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, (gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol).
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am ddiwygiad o’r argymhelliad cylch gorchwyl. Darllenodd ddatganiad gan y Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol. Ei ddiwygiad arfaethedig i argymhelliad 1 oedd “i gymeradwyo Cylch Gorchwyl i bwnc Pwyllgor Newid Hinsawdd yn amodol ar adolygiad yn ystod blwyddyn y cyngor.” Cafodd y diwygiad hwn ei gynnig yn ysbryd cefnogi nodau Cyngor Sir y Fflint i fynd i’r afael o ddifrif mewn newid hinsawdd.
Derbyniodd yr Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden y diwygiad. Cafodd y diwygiad hwn ei eilio gan Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, (gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol) hefyd.
Yna cyfeiriodd y Cadeirydd at y trydydd argymhelliad i benodi Cadeirydd i’r Pwyllgor, yn dweud bod un enwebiad i’r Cynghorydd Alistair Ibbotson wedi dod i law. Roedd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd ac Economi yn cefnogi’r enwebiad ar gyfer y Cynghorydd Ibbotson yn llawn.
Enwebodd y Cynghorydd Helen Brown y Cynghorydd Allan Marshall fel Cadeirydd y Pwyllgor. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.
Ar ôl pleidleisio ar gyfer pob enwebiad, penodwyd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yn Gadeirydd.
Gofynnodd y Cadeirydd os oedd unrhyw siaradwyr ar gyfer argymhellion 1 a 2.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Mike Peers, cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod yr eirfa ar gyfer pwynt 9.15.4.2 y cylch gorchwyl yn gywir.
Yn gyntaf mynegodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei ddiolch cywiraf i’r Aelodau am gefnogi ei enwebiad. Dywedodd bod y cylch gorchwyl yn eang iawn ac yn dilyn penderfyniad sero net y Cabinet yn 2019 a’r Strategaeth Newid Hinsawdd. Roedd angen y Strategaeth gael ei gynnwys ym mhob agwedd o fusnes y Cyngor, ac amlinellodd y llwybrau o fewn y Strategaeth i sicrhau bod y cylch gorchwyl yn cael eu bodloni i alluogi’r Cyngor gyflawni sero net erbyn 2030.
Mewn ymateb i gwestiwn ar ddarparu cyngor diduedd i breswylwyr, teimlai’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hyn yn cael ei gynnwys ym mhwynt 9.16.5.13 y cylch gorchwyl a fyddai’n cynnwys cyngor ar ddarpariaeth ynni.
Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cylch gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cael ei gymeradwyo;
(b) Hefyd bod Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cael tâl; a
(c) Penodi’r Cynghorydd Alasdair Ibbotson fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 05/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: