Manylion y penderfyniad
Work of the Coroner’s Office
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive a presentation from John Gittins on the work of the Coroner’s Office.
Penderfyniadau:
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gefndir i waith Crwner Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) a'r gwaith a wnaed ar ran Cynghorau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i John Gittins, Uwch Grwner Ei Fawrhydi i Ogledd Cymru, y Dwyrain a’r Canol, i roi ei gyflwyniad blynyddol yn cynnwys y canlynol:
· Hanes y Crwner
· Gorchymyn Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) (Rhanbarth Crwner) 2012
· Swyddog Barnwrol Annibynnol a ariennir gan awdurdodau lleol
· Swydd freintiedig iawn
· Ystadegau 2021
· Cefnogaeth
· Y Gyfraith / Y Groesffordd / Ymchwiliad / Y Cwest
· Pwerau’r Crwner – Atodlen 5 / Goblygiadau
· Atal marwolaethau yn y dyfodol
· Achosion nodedig diweddar
· Materion parhaus
· Y Llys
· Swyddi a chyfrifoldebau eraill
Roedd y cyflwyniad yn nodi’r ystod eang o bwerau a chyfrifoldebau sydd gan y Crwner; ynghyd ag enghreifftiau o achosion sy’n amlygu fod angen cydbwyso dyngarwch â’r ddyletswydd i ymchwilio.
Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd John Gittins ystod o faterion yn cynnwys ei rôl farnwrol, effaith achosion a gyhoeddwyd ar draws y DU a darpariaeth mynwentydd.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i rannu manylion cyswllt swyddfa’r Crwner â’r Pwyllgor.
Awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson y byddai’n well cael diweddariad blynyddol am waith y Crwner mewn gweithdy anffurfiol, ble gallai pob Aelod elwa. Croesawyd yr awgrym gan John Gittins.
Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Mr. Gittins am fynychu ac am ei gyflwyniad manwl. Cynigiodd yr awgrym i gynnal gweithdy ynghyd â’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn diolch i’r Crwner am ei waith ac yn cael rhagor o adroddiadau yn flynyddol; a
(b) Bod y cyflwyniad blynyddol ar waith y Crwner yn cael ei gynnal mewn gweithdy i’r holl Aelodau yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2023
Dyddiad y penderfyniad: 15/12/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: