Manylion y penderfyniad

Results of the Consultation on the Digital Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To share the outcome of the Digital Strategy consultation and to agree steps to be taken as a result.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Ddigidol 2021-26 lle'r oedd mwyafrif yr ymatebwyr wedi dangos cefnogaeth ar gyfer nodau strategol a dyheadau’r Cyngor.  Cafodd yr ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad hefyd ei atodi ar gyfer ystyriaeth.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r pedwar prif faes o ganolbwynt o’r 179 o ymatebion fel y manylwyd yn yr adroddiad a’u hadlewyrchu yn y Strategaeth ddiwygiedig.  Byddai geiriad ychwanegol hefyd yn darparu eglurder ar y cyfrifoldebau mewn perthynas â gwasanaethau digidol mewn ysgolion.  Byddai datblygu cynllun gweithredu, gan gynnwys costau prosiect, hefyd yn cynorthwyo gyda chynllunio ariannol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bill Crease, dywedodd y Prif Swyddog er bod mwyafrif gwefan y Cyngor yn hygyrch ar ddyfais symudol, roedd gwaith yn parhau i drosi dogfennau PDF i fformat mwy priodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cafodd y Cynghorydd Sam Swash wybod fod yr ymgynghoriad wedi cael ei gyhoeddi’n fewnol yn ogystal ag allanol, gan fod mwyafrif y gweithlu yn breswylwyr y Fflint.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Allan Marshall, bydd y Prif Swyddog yn gofyn i Niall Waller ddarparu’r manylion cyswllt perthnasol i’r Cynghorydd Allan Marshall mewn perthynas â chynyddu cyflymderau band eang cymunedol.  Hefyd gofynnodd y Cadeirydd bod y manylion cyswllt perthnasol o fewn Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu rhannu.

 

Ar ôl cwestiynau gan y Cadeirydd, cadarnhawyd fod ymgynghoriad wedi cael ei gynnal cyn gweithredu’r meddalwedd cynllunio newydd ac y byddai costau prosiect yn ffurfio rhan o’r cynllun adnoddau ar gyfer y Strategaeth Ddigidol gyflawn i gysylltu â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Croesawu canlyniadau’r ymgynghoriad, a bod y Pwyllgor yn credu bod yr ymateb priodol yn cael ei gymryd i’r materion a godwyd fel rhan o’r ymgynghoriad; a

 

(b)       Bod y Strategaeth Ddigidol ddiwygiedig ar gyfer 2021-2026 yn cael ei gymeradwyo gydag addasiadau ychwanegol a awgrymwyd yn yr adroddiad hwn.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2022

Dyddiad y penderfyniad: 07/07/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: