Manylion y penderfyniad

Adoption of the National Model Constitution

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd,

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol gael dogfen cyfansoddiad cyn Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhoddodd wybodaeth gefndir yngl?n â sut y lluniwyd y Model Cenedlaethol yn 2014, a oedd yn caniatáu i Gyfansoddiad safonol gael ei ddefnyddio ar draws pob awdurdod. Yn dilyn cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, roedd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnig crynodeb iaith eglur o’r Cyfansoddiad. Eglurodd bod cwmni cyfreithwyr wedi cael cyfarwyddyd i ddiweddaru’r model cenedlaethol cyn darparu canllaw iaith eglur. Ariennir hyn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Darparwyd rhestr o newidiadau hefyd i awdurdodau lleol eu hystyried a’u cymhwyso i’w cyfansoddiad eu hunain os oeddent yn wahanol i’r model cenedlaethol.

 

            Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod gweithgor o 5 o aelodau’r pwyllgor yn cael ei sefydlu ar gyfer ystyried y diwygiadau a diweddaru’r canllaw iaith eglur a’r model cenedlaethol. Byddent yna’n adrodd yn ôl i’r pwyllgor, a fyddai’n gwneud argymhelliad i’r cyngor llawn. Y Dirprwy Swyddog Monitro fyddai’n arwain hyn, ac roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) o’r farn y byddai’n dda i’r aelodau newydd gymryd rhan er mwyn darparu syniadau a safbwyntiau gwahanol.    Cytunwyd y byddai’r Gweithgor yn cynnwys y Cynghorwyr Ted Palmer, David Coggins Cogan, Gina Maddison, yn ogystal â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Michelle Perfect.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y 5 aelod a benodwyd i’r gweithgor yn ystyried y diweddariadau a’r diwygiadau i fodel cenedlaethol y cyfansoddiad a’r canllaw iaith eglur, cyn gwneud cynigion i’w mabwysiadu; 

 

(b)      Bod y gweithgor yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Ionawr, gyda’r bwriad o gymeradwyo’r newidiadau mewn cyfarfod o’r Cyngor yn gynnar yn 2023; a 

 

(c)       Bod dyddiad y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr yn cael ei ddwyn ymlaen fel bod modd iddo ystyried argymhellion y gweithgorau cyn y cyfarfod o’r Cyngor ar 24 Ionawr 2023.

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)

Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 07/07/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: