Manylion y penderfyniad

Shared Prosperity Fund

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the development of the programme and the process to submit the Investment Strategy to UK Government by 1 August 2022.

Penderfyniadau:

            Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan nodi nad oedd rhywfaint o’r wybodaeth ar gael ar hyn o bryd. Mae Rhaglen Llywodraeth y DU wedi disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE, sy’n seiliedig ar refeniw gyda £2.5b o gyllid dros y tair blynedd nesaf.  Amlinellodd yr amserlen dynn rhwng y rhyddhad dechreuol a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.  Roedd gofyn i Ogledd Cymru gyflwyno Strategaeth ar gyfer Datblygu Rhanbarthol erbyn 1 Awst, ac fe esboniodd sut y gellid defnyddio’r arian hwn.   Yna, darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth fanwl am y Blaenoriaethau, a oedd yn agored i newid, ar gyfer pob un o’r tair thema, cymuned a lle, cefnogaeth a roddir i fusnesau lleol a phobl a sgiliau.  Hefyd, darparodd wybodaeth am y cyllid o £10.8m a nododd y byddai recriwtio’r aelodau staff a oedd eu hangen i gyflawni hyn yn her.  I gloi, cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y byddai hyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf gyda chymeradwyaeth LlC ym mis Hydref.  Cadarnhaodd y byddai hyn yn dod yn ôl i’r pwyllgor yn dilyn cymeradwyaeth.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi bod y sefyllfa yn newid o hyd a bod yr un tîm hefyd yn gysylltiedig â’r cais i’r Gronfa Ffyniant Bro.  O ran cyllid, roedd Sir y Fflint yn yr ugeinfed safle o 22 awdurdod ac felly roedd yn teimlo’n ddigalon bod y swm o £10.8m dros dair blynedd mor isel.

 

            Wrth ymateb i’r cwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod yn rhaid cyflwyno’r Blaenoriaethau erbyn 1 Awst a byddent yn nodi pa ymyriadau yr hoffai’r Cyngor eu dewis o’r rhaglen.  Hyrwyddwyd y gweithdai drwy Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a phartneriaid, a daeth 20 o gyfranogwyr i bob un.  Roedd y sefyllfa yn parhau i fod yn aneglur o ran y dadansoddiad ariannol a byddai’r gwaith i nodi pa brosiectau oedd yn bodloni’r meini prawf yn parhau.   Y Cabinet fyddai’n arwain hyn, ond byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor eto yn yr hydref. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod Llywodraeth y DU wedi gosod y mecanwaith ar gyfer hyn ond bod Awdurdodau Cymru yn cael mwy o gyllid na’u cymdogion yn Lloegr, oherwydd bod hon yn rhaglen fwy yng Nghymru. Wedi dweud hynny, roedd y cyllid wedi’i anelu’n bennaf at Orllewin Cymru a’r Cymoedd.

 

            Cafwyd trafodaeth ac fe gytunodd y Cynghorydd Mike Peers a’r Pwyllgor i newid geiriad yr argymhelliad i “Bod Aelodau yn adolygu’r cyfle a gyflwynwyd gan raglen Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r gwaith a wnaed hyd yma a byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod Craffu yn y dyfodol.”

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mike Peers a Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn adolygu’r cyfle a gyflwynwyd gan raglen Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r gwaith a wnaed hyd yma a byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod Craffu yn y dyfodol.

 

Awdur yr adroddiad: Niall Waller

Dyddiad cyhoeddi: 23/12/2022

Dyddiad y penderfyniad: 05/07/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: