Manylion y penderfyniad

Economic and Market Update and Investment Strategy and Manager Summary

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Nododd Mr Dickson y pwyntiau allweddol canlynol yngl?n â’r diweddariad am yr economi a’r farchnad a’r adroddiad monitro perfformiad:

-       Eglurodd bod Ch1 2022 yn cynrychioli chwarter cyntaf y flwyddyn galendr (h.y. 1 Ionawr 2022 - 31 Mawrth 2022).

-       Cafodd yr ymosodiad ar yr Wcráin effaith sylweddol ar y marchnadoedd, yn enwedig chwyddiant a phrisiau olew a nwy. Bwydodd hyn i mewn i drafodaethau a godwyd gan y Cynghorydd Rutherford yn gynharach yngl?n â’r argyfwng costau byw a chwyddiant uchel.

-       Mae gan fanciau canolog ledled y byd gylchoedd gorchwyl i gadw chwyddiant dan reolaeth. Gan fod y cynnydd mewn chwyddiant yn rhannol mewn ymateb i’r ymosodiad, roedd banciau canolog wedi tynhau eu polisïau ariannol trwy godi cyfraddau llog. Roedd disgwyl i’r Gronfa Ffederal gyfarfod heddiw a chreu cynnydd o 0.75% yn y gyfradd sylfaenol. Byddai hyn yn arwain at oblygiadau o ran gwerth marchnadoedd.

-       Fel y pennir o dudalen 242 ymlaen, roedd yr effaith mwyaf ar asedau incwm gosodedig.

-       Ar dudalen 257 oedd y dangosfwrdd gweithredol, ond roedd yr holl eitemau yn wyrdd felly nid oedd unrhyw feysydd yn peri pryder mawr i’r Pwyllgor.

-       Roedd dyraniad asedau’r Gronfa a amlinellir ar dudalen 260 yn dangos bod cyfanswm asedau’r Gronfa ar 31 Mawrth 2022 ychydig dan £2.5 biliwn. Dangosodd tudalen 260 hefyd siart cylch gyda’r dyraniad meincnod, a dyna beth sy’n llywio enillion buddsoddi disgwyliedig y Gronfa.

-       Ar dudalen 261 roedd crynodeb o berfformiad y Gronfa dros Ch1 2022, 1 flwyddyn a 3 blynedd. Roedd y crynodeb hwn yn nodi perfformiad cryf y Gronfa o’i chymharu â’r targed actiwaraidd ar waelod y tabl.

-       Amlinellwyd crynodeb o berfformiad rheolwyr yn erbyn y meincnodau ar dudalen 264.

 

Ychwanegodd Mr Latham bod y ffigyrau monitro perfformiad yn yr adroddiad wedi’u nodi ar 31 Mawrth 2022 a gofynnodd sut y byddai’r ffigyrau wedi newid ers hynny. Dywedodd Mr Dickson bod y marchnadoedd yn eithriadol o anwadal ac oherwydd bod banciau canolog yn codi cyfraddau llog; roedd hyn yn bwydo i mewn i’r marchnadoedd. Nid oedd gan Mr Dickson ffigyrau cyfredol i’w rhoi i’r Pwyllgor ond roedd yn disgwyl y byddai’r asedau wedi disgyn o’r safle presennol ar 30 Mehefin 2022. Soniodd am bwysigrwydd edrych ar Gronfa o safbwynt mwy hirdymor gan y byddai’r Gronfa yn talu buddion am ddegawdau felly roedd yn hanfodol edrych a oedd y Gronfa yn buddsoddi’n briodol ar gyfer y tymor hir.

Gofynnodd Mrs McWilliam wedyn beth oedd Mr Dickson yn ei feddwl o’r marchnadoedd, ac a oedd ganddo unrhyw bryderon am y rhagolygon yn y tymor hirach. Dywedodd Mr Dickson fod y Gronfa wedi arallgyfeirio’n dda ac y bydd yn wynebu nifer o gyfnodau heriol yn economaidd, ond nid oedd ganddo unrhyw bryderon hirdymor.

PENDERFYNWYD:

 

Ystyriodd a nododd y Pwyllgor y diweddariad, a oedd yn cynnwys perfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd ddiwedd mis Mawrth 2022.

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 03/11/2022

Dyddiad y penderfyniad: 15/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: