Manylion y penderfyniad

Asset Pooling and WPP Business Plan 2022 - 2025

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Er budd yr aelodau newydd, esboniodd Mr Latham bod y Gronfa yn y gorffennol wedi gosod y strategaeth fuddsoddi; penderfynu faint oedd yn cael ei ddyrannu ym mhob dosbarth asedau a dewis nifer o reolwyr buddsoddi i ddarparu’r strategaeth.  Ar wahân i rai asedau etifeddol, nid yw’r Gronfa bellach yn dewis y rheolwyr cronfa eu hunain gan fod Partneriaeth Pensiynau Cymru (“PPC”) yn dewis rheolwyr. 

Cadarnhaodd Mr Latham bod y CBLl wedi penodi cynrychiolydd newydd ar gyfer aelodau’r cynllun fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.

Amlygodd hefyd ym mharagraff 1.01 bod Dye & Durham yn prynu Link Group.  Mae Link Fund Solutions yn darparu isadeiledd cefn swyddfa i PPC ar gyfer cronfeydd buddsoddi cyfun y mae cronfeydd sy’n bartneriaid i PPC yn buddsoddi ynddynt. Nododd Mr Latham ei bod yn aneglur ar hyn o bryd beth fyddai’n digwydd gyda Link Fund Solutions, ond roedd y CBLl a PPC yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater.

Dywedodd Mr Hibbert bod buddsoddwyr preifat yn Woodford (a argymhellwyd gan Link Group) yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Link Group a gofynnodd a oedd hynny’n debygol o gael effaith ar wasanaethau’r Gronfa i PPC. Dywedodd Mr Latham bod PPC wedi cadarnhau na fyddai hynny’n wir, ond roedd Mr Latham yn cydnabod bod rhai risgiau, o ystyried nad yw’r Gronfa yn gwybod beth yw’r canlyniad na pha gamau y byddai’r FCA yn eu cymryd. Pwysleisiodd Mr Latham bod ymgynghorwyr PPC, Hymans Robertson, wedi eu sicrhau y byddai’r FCA yn ymyrryd pe bai rhywbeth yn digwydd i Link o ganlyniad i Woodford.

            Roedd gweithgor swyddogion PPC wedi sefydlu nifer o is-grwpiau er enghraifft, roedd Mr Latham yn rhan o’r is-gr?p rheoli risg ac roedd Mrs Fielder yn rhan o’r ddau gr?p arall ar gyfer marchnadoedd preifat a buddsoddi cyfrifol (“BC”). Roedd y ddau faes yma yn rhai cymhleth a phwysig i’r Gronfa o ystyried bod oddeutu 27% o asedau’r Gronfa mewn marchnadoedd preifat, ac yn y pen draw byddai unrhyw ymrwymiadau newydd yn y dosbarth asedau hwn yn cael eu gwneud i is-gronfeydd marchnadoedd preifat PPC.

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan y grwpiau hyn, yn enwedig yr is-gr?p marchnadoedd preifat, o ystyried y penodiadau a wnaethpwyd mewn credyd preifat ac isadeiledd. O’r flwyddyn nesaf ymlaen, ar ôl i’r is-gronfeydd gael eu sefydlu, bydd buddsoddiadau’r farchnad breifat yn digwydd trwy PPC, a bydd y dyranwyr sylfaenol amrywiol yn pennu sut y caiff buddsoddiadau eu trefnu.

            Hefyd, mae llawer iawn o waith wedi’i gwblhau mewn perthynas â’r is-gr?p buddsoddi cyfrifol fel yr amlinellir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad. Fel yr adroddwyd yn y Pwyllgor diwethaf, llwyddodd PPC i ddod yn aelod o’r Cod Stiwardiaeth. Amlygodd y Cyngor Adrodd Ariannol (“FRC”) feysydd a awgrymir i’w gwella ar gyfer PPC. O ganlyniad, cafodd cynllun gweithredu ei greu yn barod ar gyfer y cyflwyniad y flwyddyn nesaf.

            Roedd y Gronfa wedi gofyn yn y gorffennol i PPC sefydlu is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy Byd-eang Gweithredol i helpu’r Gronfa i gyflawni ei hamcanion buddsoddi, a rhoddodd Mr Latham ddiweddariad i’r Pwyllgor am y cynnydd yn hyn o beth. Rhoddodd Mercer farn am adroddiadau cynnydd a ddarparwyd gan Russell Investments a byddai strwythur yr is-gronfa yn cael ei argymell yng nghyfarfod nesaf y CBLl. Ar ôl yr argymhelliad yng nghyfarfod y CBLl, byddai angen cymeradwyaeth gan yr FCA a fydd yn mynd i fwy o fanylder i sicrhau nad oes unrhyw ‘wyrddgalchu’ yn amcanion cynaliadwyedd yr is-gronfa.

Dywedodd Mr Hibbert na allai’r Gronfa fod yn fuddsoddwr cyfrifol os nad oedd yn dal y stociau yn PPC oherwydd eu bod wedi cael eu rhoi ar fenthyg trwy fenthyca stoc. Gan hynny, fel y soniwyd yn y pwynt yn gynharach yn y cofnodion diwethaf, gofynnodd i’r adroddiad benthyca stoc gael ei ddarparu. Dywedodd Mr Latham bod dau adroddiad allweddol.  Un gan Robeco a benodwyd gan PPC i adrodd ar y gweithgareddau pleidleisio ac ymgysylltu sydd wedi digwydd gyda darparwyr yn seiliedig ar bolisïau PPC.  Yr adroddiad arall yw’r un gan Northern Trust ar fenthyca stoc. Eglurodd Mr Latham bod ganddo adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth yngl?n â buddsoddiadau PPC yn gyffredinol, ond nid oedd modd rhannu hwnnw gyda’r Pwyllgor ar hyn o bryd, oherwydd bod y Gronfa wedi buddsoddi mewn dim ond 3 o’r 9 is-gronfa a nodwyd.  Esboniodd Mr Latham y byddai’n well ganddo rannu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r Gronfa ond os nad yw hynny wedi’i ddatblygu erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor, byddai adroddiad llawnach yn ymwneud â’r holl PPC yn cael ei rannu. O ran pwynt cyffredinol Mr Hibbert am fenthyca stoc, cadarnhaodd Mr Latham bod PPC yn edrych ar hyn i sicrhau bod benthyca stoc yn cyd-fynd ag egwyddorion buddsoddi cyfrifol PPC.  Rhoddir adroddiad cynnydd yng nghyfarfodydd y dyfodol.

Yna soniodd Mr Latham am y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Roedd gan PPC gytundeb rhwng awdurdodau pob un o’r wyth cronfa a oedd yn cadarnhau materion a gadwyd yn ôl a oedd yn dal yn gyfrifoldeb i’r cronfeydd gytuno arnynt.  Un o’r rheiny oedd cymeradwyo’r cynllun busnes blynyddol a’r gyllideb gysylltiedig.

-       Amlygodd Mr Latham yr amcanion o dudalen 75 a chadarnhaodd nad oeddent wedi newid ers i’r cynllun busnes cyntaf gael ei greu.

-       Roedd y cynllun hyfforddiant ar dudalen 80 a’r cyllidebau ar dudalen 81.

-       Nododd bod cyllideb yr ymgynghorwyr allanol wedi cynyddu oherwydd penodiad diweddar Robeco, a hefyd oherwydd bod Hymans Robertson fel ymgynghorydd goruchwylio’r Gronfa yn cwblhau gwaith ychwanegol ar farchnadoedd preifat a BC.

 

Gofynnodd Mr Hibbert a oedd PPC a BGLl yn credu y gallai Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun gael eu hyfforddi’n llawn yn unol â’r cynllun hyfforddiant yn eu deiliadaeth. Dywedodd Mr Latham ei bod yn anodd siarad ar ran PPC, ond credai mai dyna oedd y gred gyda’r bwriad mai’r Dirprwy fyddai’r cynrychiolydd nesaf.

O ran yr ail amcan ar dudalen 75, gofynnodd Mrs McWilliam a oedd PPC yn gwneud unrhyw beth i fonitro’r arbedion sy’n cael eu creu trwy gyfuno asedau. Atebodd Mr Latham trwy ddweud ei bod yn anodd mesur ond roedd gofyn i PPC ddarparu adroddiad ar hyn i DLUHC yn rheolaidd. Mae PPC yn edrych ar gronfeydd yn unigol ac yn darparu adroddiadau ar p’un a ydynt yn credu eu bod yn dal i ddarparu gwerth am arian.

Nid oedd Mr Hibbert yn cefnogi’r ail argymhelliad yn yr adroddiad, gan nad oedd yn credu bod cynllun hyfforddiant Cynrychiolwyr Aelodau’r Cynllun yn gyraeddadwy.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Ystyriodd y Pwyllgor raglen y CBLl a’i nodi.

(b)  Cymeradwyodd y Pwyllgor y Cynllun Busnes PPC drafft, gan gynnwys amcanion y gronfa ar dudalen 7 a’r gyllideb ar dudalen 13, ar gyfer y cyfnod o 2022/23 i 2024/25.

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 03/11/2022

Dyddiad y penderfyniad: 15/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: