Manylion y penderfyniad
Safeguarding in Education
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the discharge of
statutory safeguarding duties in schools and the Education
portfolio.
Penderfyniadau:
Rhoes yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu fraslun o’r prosesau diogelu’r oedd y Cyngor yn eu darparu a chyfraniad y Swyddogion at y Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid a’r Gwasanaethau Plant. Darparwyd gwybodaeth hefyd yngl?n â’r blaenoriaethau ar gyfer hyfforddiant diogelu a rhannu gwybodaeth allweddol ag ysgolion er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel.
Darparodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu wybodaeth yngl?n â phrif bwyntiau canllawiau Llywodraeth Cymru: Diogelu Addysg, a oedd yn cynnwys offeryn archwilio i ysgolion ei ddefnyddio, ac eglurodd fod gan yr holl ysgolion ddyletswyddau statudol, yn enwedig felly ym maes diogelu. Câi’r holl offerynnau archwilio ac adroddiadau eu hadolygu dros yr haf fel y gellid ymateb i’r themâu allweddol a hwyluso’r hyfforddiant. Rhoes fraslun o’r hyfforddiant proffesiynol a ddarperid ar y we; bu’r ymateb iddo’n gadarnhaol a defnyddiwyd y sylwadau wrth gynllunio rhaglenni hyfforddiant yn y dyfodol.
Darparwyd gwybodaeth am Gynllun Gweithredu’r Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid, a chadarnhawyd na dderbyniwyd Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru eto. Esboniwyd sut yr eid ati i sefydlu hyn mewn ysgolion yn barod ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.
Diolchodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) i’r Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu am ei gwaith. Rhoes sicrwydd i’r Aelodau fod y tîm yn darparu cyngor, hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ardderchog i ysgolion ac yn eu cyfeirio at wahanol asiantaethau. Roedd y Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid yn dod o dan y Panel Diogelu Corfforaethol gan sicrhau y dilynid yr holl brosesau diweddaraf.
Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry ei bod wedi gwneud yr hyfforddiant a’i bod yn ei ganmol. Yn dilyn awgrymiadau yngl?n â phynciau eraill y gellid darparu hyfforddiant ar-lein ar eu cyfer, cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu y byddai’n siarad â’r Cynghorydd Carberry wedi’r cyfarfod.
Argymhellodd y Cynghorydd Bill Crease fod yr holl Aelodau’n gwneud yr hyfforddiant, a rhoes ganmoliaeth i waith y Cyngor. Dywedodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) fod yr hyfforddiant newydd a’r hyfforddiant gloywi’n ffyrdd ardderchog o ddysgu. Byddai’n hapus i rannu rhywfaint o awgrymiadau ac roedd hi’n agored i unrhyw syniadau am hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion. Drwy ddarparu’r hyfforddiant ar-lein bu modd darparu mwy o sesiynau.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden nad dim ond mater i ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol oedd hyn, ond yn hytrach yn rhywbeth i bawb a oedd yn gweithio yn yr awdurdod. Rhoes enghreifftiau o’r pryderon a godwyd mewn ysgolion yngl?n â chaethwasiaeth fodern, ymddygiad rheolaethol neu gam-drin oedolion bregus. Anogodd Gynghorwyr i fanteisio ar y cyfle i wneud yr hyfforddiant a magu gwell dealltwriaeth o’r materion perthnasol yn Sir y Fflint. Diolchodd i’r swyddogion a oedd yn ymdrin â’r materion hyn bob dydd mewn ysgolion a phob rhan o’r Cyngor.
Dywedodd y Prif Swyddog
(Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod ef a’r Prif Swyddog
(Addysg ac Ieuenctid) yn gyd-gadeiryddion ar y Panel Diogelu
Corfforaethol. Anogodd yr Aelodau i
wneud yr hyfforddiant diogelu corfforaethol er mwyn meddu ar yr
holl wybodaeth wrth benderfynu. Bu
cynnydd mawr mewn adroddiadau yn ystod y pandemig, yn enwedig felly
yngl?n ag oedolion bregus, a byddai’r hyfforddiant yn
galluogi’r Aelodau i gael dealltwriaeth gyflawn o’r
sefyllfaoedd hynny. Awgrymodd yr
Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) rannu rhifau ffôn a
gwybodaeth am ddiogelu ag Aelodau’r Cydbwyllgor wedi’r
cyfarfod.
Soniodd y Cadeirydd am flynyddoedd a fu pan roddwyd posteri mewn toiledau ysgolion uwchradd gyda manylion cyswllt i ddisgyblion a deimlai dan fygythiad, a holodd a oedd hynny’n dal yn digwydd. Cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) y byddai’n
holi yngl?n â hynny ac yn sicrhau y darperid gwybodaeth am atgyfeiriadau mewn mannau amlwg mewn ysgolion.
Holodd y Cynghorydd Carolyn Preece yngl?n â hyfforddiant diogelu gorfodol a’r botwm diogelu, a dywedodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) fod yno fotwm diogelu y gallai pawb ei bwyso ynghyd â rhif ffôn. Y ffordd orau o godi unrhyw bryderon oedd llenwi’r ffurflen adrodd ar gyfer diogelu, a chytunodd y byddai’n rhannu gwybodaeth yngl?n â hynny. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu y byddai disgwyl i swyddog arweiniol diogelu neu lywodraethwr oedd wedi gwneud hyfforddiant lefel 3 ail-wneud yr hyfforddiant bob dwy flynedd. Cynhelid hyfforddiant lefel 2 bob tair blynedd, ond yr arfer orau oedd darparu’r cwrs i holl staff yr ysgol unwaith y flwyddyn.
Rhoes y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wybodaeth am yr achosion aeth gerbron y Panel Diogelu Corfforaethol o bob rhan o’r sir. Awgrymodd bod Aelodau’n lawrlwytho’r ap ar gyfer Gweithdrefnau Diogelu Cymru gan ei fod yn egluro’r holl weithdrefnau i blant ac oedolion ac yn rhwydd iawn ei ddefnyddio. Roedd yn cynnwys llawer o wybodaeth berthnasol ac yn werth ei gael ar eich ffôn. Roedd yr hyfforddiant yn syml i’w gwblhau ac nid oedd yn cymryd llawer o amser.
Roedd Mrs Lynn Bartlett yn falch fod yr hyfforddiant yn cynnwys aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn ysgolion uwchradd, ac awgrymodd fod y Cydbwyllgor yn derbyn adroddiad ynghylch Perthnasoedd ac Addysg Rhyw er mwyn darparu gwybodaeth am y modd yr oedd hyn yn cyfrannu at leihau niwed. Roedd y Cydbwyllgor o blaid yr awgrym hwnnw.
Cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Teresa Carberry y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys yr adroddiad ynghylch diogelu mewn addysg.
Awdur yr adroddiad: Vicky Barlow
Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 30/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: