Manylion y penderfyniad

Induction Programme for Councillors

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad amlinellodd y Swyddog Monitro’r themâu allweddol ar gyfer y sesiynau hyfforddiant sef ymddygiad priodol a dealltwriaeth o’r Cod.    Cyflwynwyd rhan gyntaf y Rhaglen Gyflwyno o fewn y pythefnos cyntaf ac roedd yn canolbwyntio ar ymddygiad.   Roedd y sesiynau presennol yn cynnwys datgan cysylltiad, goddefebau, rhoddion a lletygarwch gyda hyfforddiant manwl ar hyn i’r grwpiau gwleidyddol.    Gan gyfeirio at Gynghorwyr Tref a Chymuned, cadarnhaodd y Swyddog Monitro y cynhaliwyd tair sesiwn gyda 43% o’r Cynghorwyr Tref a Chymuned wedi mynychu hyd yma.   Cynhelir sesiynau ychwanegol yn yr Hydref ar gyfer y cynghorwyr a gyfetholwyd dros yr haf.   Roedd y rhain yn sesiynau gorfodol ac roeddent yn cael eu recordio ar gyfer y rhai nad oeddent yn gallu mynychu’r sesiynau a drefnwyd.

 

            Holodd David Davies beth oedd y canlyniadau ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned os nad oeddent yn mynychu’r Sesiynau Cod Ymddygiad o gwbl.    Mewn ymateb eglurodd y Swyddog Monitro y byddai’r risg y byddent yn torri’r Cod yn cynyddu ynghyd â’r risg y byddai cwyn yn cael ei gyflwyno yn eu herbyn, a allai arwain at waharddiad.   Nid oedd yn sicr beth fyddai safbwynt yr Ombwdsmon ond cadarnhaodd y byddai gofyn iddo gadarnhau a yw’r cynghorydd wedi mynychu sesiwn hyfforddi ar y Cod.

 

            Gan gyfeirio at Gynghorwyr Sir eglurodd y Cadeirydd bod gofyniad i Arweinwyr Gr?p sicrhau bod eu haelodau’n cwblhau’r hyfforddiant.   Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod hynny’n gywir a bod yr holl Arweinwyr Gr?p wedi cytuno y gallai ef a’r Dirprwy Swyddog Monitro fynychu eu cyfarfodydd i ddarparu’r hyfforddiant iddynt.

 

            Eglurodd y Cynghorydd Antony Wren fod yr hyfforddiant yn hynod ddefnyddiol er bod gormod o wybodaeth.   Pan ofynnwyd a oedd y sesiynau’n cael eu storio, cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai dolenni cyswllt i’r sesiynau hyfforddiant ar gael ar Dudalen yr Aelodau, sy’n cael ei datblygu ar yr Infonet.   Cytunodd y byddai’n cadarnhau pryd y byddent ar gael i’r Aelodau.   Holodd y Cadeirydd a fyddai modd cyflwyno’r wybodaeth yn y cyfarfod nesaf.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at God y Cyfansoddiad gyda 58 allan o 67 o’r Aelodau eisoes wedi mynychu’r hyfforddiant a holodd sut y byddent yn ymdrin â’r 9 sy’n weddill gan fod yr hyfforddiant yn orfodol.   Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod pob un heblaw un o’r Aelodau newydd wedi mynychu’r hyfforddiant ar gysylltiadau ac yn ogystal ag yntau a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn mynychu’r cyfarfodydd gr?p byddai recordiad ar gael i’r Aelodau.   Mewn ymateb i gwestiwn am gynghorwyr sydd newydd eu hethol, cadarnhaodd y Swyddog Monitro yn dilyn is-etholiad byddai unrhyw gynghorwyr newydd sy’n cael eu hethol yn cael cyfarfod wyneb yn wyneb gydag ef, a byddai’n darparu hyfforddiant bryd hynny. 

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan David Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r elfen foesegol o Raglen Gyflwyno’r Aelodau a gynhaliwyd ar ôl yr etholiadau, sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 a 2.

 

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)

Dyddiad cyhoeddi: 01/09/2023

Dyddiad y penderfyniad: 04/07/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/07/2022 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: