Manylion y penderfyniad

School Attendance & Exclusions

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide the Committee with an update on learner attendance and exclusions in Flintshire Schools & support provided by Inclusion Services.

Penderfyniadau:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu (Ymgysylltu) wybodaeth fanwl yngl?n â lefelau presenoldeb a gwaharddiadau ledled y sir, sef y rhesymau pennaf am absenoldeb disgyblion rhwng Medi 2020 a Haf 2021. Rhoddwyd gwybodaeth yngl?n â’r tueddiadau ar gyfer presenoldeb mewn ysgolion, lefelau gwaharddiadau dros dro a pharhaol, ond roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i rannu gwybodaeth am y sefyllfa genedlaethol yn ystod y cyfnod hwn ac felly roedd y wybodaeth wedi’i chasglu gan ein hysgolion lleol a’i seilio ar ddata Systemau Rheoli Gwybodaeth Ysgol.  Gofynnodd i’r Aelodau droi at Atodiad 1 ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu marciau penodol i’r ysgolion eu defnyddio ar gyfer absenoldebau oherwydd Covid-19, ond fod llawer o’r absenoldebau wedi’u cofnodi â’r marc (i).  Bu’n rhaid i’r Gwasanaeth Lles Addysg a thimau eraill weithio mewn ffyrdd gwahanol yn ystod y pandemig Covid-19 ac yn ei sgil, ac eglurodd y prosesau a’r gefnogaeth a ddarparwyd i ddysgwyr agored i niwed er mwyn cadw mewn cysylltiad a sicrhau eu bod mewn lle diogel fel y gallant ddal i gyfranogi o’u haddysg.

 

            Rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am y gwaharddiadau Cyfnod Penodol a Pharhaol, a fu ar gynnydd mewn blynyddoedd diweddar, ac eglurodd y rhesymau am y gwaharddiadau hynny.  Rhoddwyd gwybodaeth fanwl yngl?n â sut roedd y tîm wedi newid ei ddull gweithredu er mwyn mynd ati i chwilio am broblemau a meithrin cyswllt â’r disgyblion dan sylw yn y gobaith o wella’r sefyllfa a’u galluogi i ddychwelyd i’r ysgol.

             

            Yn dilyn nifer o gwestiynau gan Aelodau, rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth fanwl yngl?n â’r drefn gwaharddiadau, patrymau ymddygiad, y marciau’r oedd Penaethiaid yn eu defnyddio a phwy oedd yn gyfrifol am gofnodi absenoldebau.  Roedd y pandemig wedi effeithio ar bresenoldeb disgyblion ac roedd Covid, iechyd meddwl a materion eraill yn peri pryder.  Eglurodd y dull rhagweithiol o feithrin cyswllt â’r disgyblion hyn er mwyn deall y rhesymau dros eu habsenoldeb a darparu cefnogaeth i ddisgyblion a’u teuluoedd fel y gallant ddychwelyd i’r ysgol.  

 

            Wrth sôn am absenoldebau heb eu hawdurdodi, rhoes yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am drothwyon Llywodraeth Cymru a’r lefelau yn ysgolion Sir y Fflint.  Rhagwelid y byddai’r sefyllfa’n gwella yn sgil dulliau gweithredu newydd y Gwasanaeth Lles Addysg o fis Medi ymlaen. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y dymunai ysgolion sicrhau fod cyn lleied â phosib o absenoldebau heb eu hawdurdodi o safbwynt diogelu ac eglurodd y systemau oedd ar waith mewn ysgolion, fel y Polisi Presenoldeb a oedd yn gofyn bod yr ysgol yn gwneud ymholiadau o ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb os nad oedd y rhieni wedi cysylltu â’r ysgol.Gallai Penaethiaid uwchgyfeirio absenoldebau heb eu hawdurdodi i’r Gwasanaeth Lles Addysg er mwyn cyflwyno rhybuddion talu cosb.  Soniodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu yngl?n â’r cyfarfodydd misol a gynhelid â’r Tîm Addysg Heblaw yn yr Ysgol a rhoes fraslun o’r Strategaeth Ymyrraeth Gynnar a oedd â’r nod o helpu disgyblion a theuluoedd, eu cynorthwyo a’u cefnogi er mwyn cael gwell canlyniadau.    

 

            Holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a oedd yno darged penodol ar gyfer Sir y Fflint gyfan yng nghyswllt absenoldebau heb eu hawdurdodi, yn hytrach nag ysgolion unigol.  Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eu bod yn cydnabod fod absenoldebau’n anochel, er mai’r dyhead fyddai cael dim o gwbl, ond ei bod yn bwysig fod ysgolion yn deall y rhesymau pam fod disgyblion yn absennol a bod y disgyblion hynny’n ddiogel. 

 

            Wrth ateb cwestiynau gan y Cynghorydd Carolyn Preece, dywedodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael gwared â’r marc Covid eto, ond soniodd am rwydweithiau anffurfiol ledled y rhanbarth lle gellid rhannu gwybodaeth.  Nid oedd y sefyllfa yn Sir y Fflint yn anarferol o gymharu ag awdurdodau eraill.  Roedd ysgolion yn defnyddio’r un systemau cyffredin wrth gofnodi gwybodaeth am bresenoldeb, a oedd yn cynnwys cysylltiadau â’r holl asiantaethau fel y Gwasanaeth Ymgynnwys Ysgolion a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.   Esboniwyd fod gan yr awdurdod ddyletswydd gofal i ddarparu cefnogaeth ac addysg yn awtomatig i ddysgwyr a gaiff eu gwahardd.  I’r rhai hynny a waherddid yn barhaol, cedwid mewn cysylltiad â’u teuluoedd i hybu eu dealltwriaeth o’r broses, a gallai hynny alluogi’r disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol a bod y rhieni’n cael dewisiadau eraill fel anfon eu plentyn i ysgol arall.  Roedd y Gwasanaeth Lles Addysg wedi recriwtio staff i feithrin cyswllt â phlant a dderbyniai addysg ddewisol yn y cartref a sicrhau bod y gwasanaeth yn fwy ymatebol.  Rhoddwyd braslun o’r gwaith yr oedd y Gr?p Strategol yn ei wneud i feithrin dealltwriaeth o ddisgyblion a waharddwyd fwy na theirgwaith a’u cefnogi.  

 

            Dywedodd yr Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden yr arferai fod targed cyffredinol o 95% ar gyfer presenoldeb yn yr holl ysgolion a bod rhai ysgolion yn ei gyflawni ac eraill yn ei chael hi’n anodd, ac nid oedd hynny’n adeiladol.  Roedd yno amrywiaeth o strategaethau eraill, gan gynnwys trosglwyddiadau wedi’u rheoli pan fyddai dechrau o’r newydd yn addas i ddisgyblion.  Roedd hi’n hawdd pennu targedau ond nid oeddent yn adlewyrchu’r heriau’r oedd ysgolion yn eu goresgyn er mwyn eu cyflawni.  Dywedodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu mai lles a gweithio gyda theuluoedd oedd y man cychwyn bob amser wrth dargedu cymorth yn y ffordd fwyaf effeithiol.  Wrth seilio gwaith y Gwasanaeth Lles Addysg yn fwy cadarn ar ddata a gwybodaeth a thargedu ymyriadau’n fwy manwl, roedd gobaith y byddai gwell canlyniadau i ddysgwyr, yn enwedig felly drwy hybu lefelau presenoldeb a lleihau gwaharddiadau.  

 

            Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Dave Mackie, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) na fyddai pennu targed ar hap yn unig yn arwain at welliannau ymhob ysgol.  Rhoes sicrwydd i’r Aelodau fod gan ysgolion brosesau, polisïau a systemau cadarn yn eu lle a bod yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu a’i dîm yn darparu lefel ychwanegol o graffu a chefnogaeth i ysgolion.  Pe byddai ysgolion yn methu â gwella’r sefyllfa gyda theulu penodol byddai’r Uwch-ymgynghorydd Dysgu a’i dîm yn camu i mewn i ddarparu’r ymyriadau a’r gefnogaeth.  Eglurodd y newidiadau a wnaed yn y tîm i gynorthwyo ysgolion i gyflawni eu swyddogaethau statudol, a’r flwyddyn nesaf byddai modd dangos effaith y camau hynny.

 

            Holodd y Cynghorydd Gina Maddison a oedd hyn yn dueddiad a ddaeth i’r amlwg cyn Covid, a dywedodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu y bu Covid yn sefyllfa ddigynsail a effeithiodd ar bob rhan o’r wlad.  O safbwynt lles, wrth geisio deall profiadau plant o hunan-ynysu, gweithio gartref, methu â gweld ffrindiau a dilyn eu trefn arferol fe nodwyd fod y rhain ymysg y rhesymau pam fod disgyblion yn gyndyn o fynd i’r ysgol.  Byddai’r Pennaeth yn meddu ar y dystiolaeth yn unol â’r ymateb graddedig fel bod modd iddynt awdurdodi’r absenoldeb neu beidio, a byddant wedyn yn medru trafod y gwahanol ddewisiadau oedd ar gael i gefnogi’r disgybl dan sylw.   Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y bu presenoldeb yn dirywio mewn ysgolion uwchradd cyn Covid, fel y nodwyd yn Adroddiad Estyn yn 2019.   Soniai disgyblion am orbryder a phroblemau iechyd meddwl bryd hynny, i’r fath raddau fel na ddymunai rhai ohonynt fynd i’r ysgol, ac roedd y pandemig wedi gwaethygu hynny.

 

            Holodd y Cynghorydd Andy Hughes yngl?n â’r swp cyntaf o rybuddion talu cosb, a chadarnhaodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu mai’r Pennaeth oedd i benderfynu a ddylid cyflwyno rhybudd yn unol â’r Polisi Presenoldeb.  Eglurodd sut roedd ei dîm yn gweinyddu a chyflwyno’r rhybuddion, a’u bod yn ymdrin â phob achos yn ôl ei rinweddau unigol. 

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Gina Maddison ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Carolyn Preece y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Aelodau’n derbyn y data yngl?n â phresenoldeb a gwaharddiadau yn ysgolion Sir y Fflint a’r camau a gymerodd y swyddogion i hybu cyfranogiad, diogelwch a lles ein plant a phobl ifanc; ac

 

(b)       Bod yr Aelodau’n cydnabod fod y cyfnodau clo Covid-19 a chau’r ysgolion wedi effeithio ar y data a ddarparwyd.

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: