Manylion y penderfyniad

Climate Change Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To gain agreement and commitment to the Climate Change Strategy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad ar y cyd â Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.

 

Wrth gyflwyno’r Strategaeth Newid Hinsawdd, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, gan alw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.   Bu i'r Cabinet benderfynu ym mis Rhagfyr 2019 y byddent yn canfod adnoddau i benodi Rheolwr Rhaglen i ddatblygu’r Strategaeth Newid Hinsawdd, a fyddai’n gosod nodau a chamau gweithredu allweddol ar gyfer creu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y canlynol:-

 

  • Cyd-destun
  • Cyflawniadau hyd yma
  • Datblygiad y Strategaeth - llinell sylfaen
  • Effeithiau Pandemig Covid-19
  • Datblygiad y Strategaeth - Ymgysylltu
  • Bwriad y Strategaeth oedd cael Cyngor di-garbon net erbyn 2030.
  • Strategaeth Newid Hinsawdd
  • Cynllun Gweithredu Di-garbon Net - ymddygiad
  • Llinell Amser hyd at 2030

 

Talodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) deyrnged i Reolwr y Rhaglen a oedd, ar ôl ymuno â’r Cyngor ym mis Mehefin 2021, wedi gwneud llawer iawn o waith gyda gweithgor yr Aelodau i’w gwneud yn bosib cyflwyno’r Strategaeth heddiw.  Roedd y gwaith a wnaed eisoes i leihau ôl troed carbon y Cyngor dros yr 8 mlynedd diwethaf wedi’i gynnwys yn y Strategaeth.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Reolwr y Rhaglen am ei chyfraniad hyd yma i Strategaeth y Cyngor ac i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).  Talodd deyrnged hefyd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas, a fu’n rhan bwysig o ddatblygu nifer o’r mentrau.   Diolchodd i drigolion Sir y Fflint am wneud y newidiadau bychain yn eu hymddygiad, fel defnyddio cludiant cyhoeddus ac ailgylchu cymaint ag y gallent, sy’n gwneud gwahaniaeth.  Roedd mwyafrif y trigolion wedi ymateb i’r her, a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth.  Gan gyfeirio at alwad LlC i Sectorau Cyhoeddus fod yn garbon niwtral, eglurodd bod y Cabinet wedi gwneud amrywiaeth o benderfyniadau i alluogi’r Cyngor i gyrraedd y nod erbyn 2030.  Roedd gan blant ddiddordeb brwd mewn carbon niwtraliaeth a materion lleihau carbon, a theimlodd y dylid ystyried, ar ôl i’r Cyngor newydd ddechrau, creu Panel Ymgynghorol Plant a Myfyrwyr i drafod y materion hyn.  Cynigiodd yr argymhelliad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sean Bibby fel Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd, gan dalu teyrnged i’r gwaith a wnaed gan Reolwr y Rhaglen a’r Prif Swyddog ar lunio’r Strategaeth.  Wrth eilio’r argymhelliad, diolchodd i’w gyd Aelodau ar Fwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd am eu heriau a’u cyfraniadau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones am y goblygiadau o ran cost, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen ei bod yn anodd darparu gwybodaeth ariannol gan fod rhaid ymchwilio ymhellach i’r prosiectau.  Bydd achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob maes sy’n gofyn am fuddsoddiad, gyda dealltwriaeth glir o’r goblygiadau ariannol fydd ynghlwm.    Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ei bod yn rhy gynnar i ragweld hyn ar hyn o bryd, ond sicrhaodd y Cynghorydd Jones y byddai achosion busnes buddsoddi yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor.   Nid oedd costau’r technolegau newydd sydd eu hangen i gyflawni carbon niwtraliaeth yn hysbys ar hyn o bryd.

 

Cafwyd gwybodaeth gan y Prif Weithredwr am nifer o fentrau LlC oedd wrthi’n cael eu trafod, megis datgarboneiddio cydrannau tai a datblygu ysgolion carbon niwtral.  Roedd yna hefyd sawl prosiect peilot ar ddatgarboneiddio’n mynd rhagddynt.   Roedd rhai o’r technolegau newydd angenrheidiol yn dal i fod wrthi’n cael eu datblygu, a oedd yn broblem ar gyfer LlC a’r Cyngor.  Roedd yn deall y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Jones, ond darparodd sicrwydd y byddai achosion busnes yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor eu hystyried pan fyddai’r wybodaeth ar gael.   Ailadroddodd y Cynghorydd Jones ei bryderon yngl?n â chytuno i’r Strategaeth heb unrhyw syniad o’r costau fyddai ynghlwm. 

            Croesawodd y Cynghorydd Ian Smith yr adroddiad, gan ddweud bod effeithiau newid hinsawdd i’w teimlo ym mhobman, a chyfeirio at fentrau ym Mharc Gwepra.

 

Fel Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell yr adroddiad a oedd yn dathlu amrediad o gyflawniadau’r Cyngor hyd yma ac yn nodi’r Strategaeth wrth symud ymlaen i gyrraedd y nod di-garbon net a osodwyd gan LlC erbyn 2030.  Dywedodd fod hon yn ymdrech ar y cyd a oedd yn galw ar bawb i wneud eu rhan i leihau allyriadau carbon, ac y dylai’r Sir fod yn falch o sut roedd ei thrigolion wedi cyfrannu, yn enwedig o ran ailgylchu. Roedd Rheolwr y Rhaglen yn ymweld â chynghorau tref i ledaenu’r neges a’u hannog i gefnogi’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.  Diolchodd i’r Prif Swyddog, Rheolwr y Rhaglen a’r tîm am eu gwaith ar hyn.

 

Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton yr adroddiad cadarnhaol, gan ofyn am ddiweddariad ar y gwaith yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ei wneud ar atal llifogydd.   Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda CNC mewn perthynas â’r cyfrifoldeb am gynnal a chadw’r asedau hyn.  Cyfeiriodd at effeithiau Storm Kristof y llynedd, pan gafwyd pum achos o lifogydd, gan gadarnhau y datblygwyd cynlluniau llifogydd ar gyfer pob un o’r ardaloedd hynny.  Adroddodd ar y gwaith yn Sandycroft i helpu atal llifogydd yn y dyfodol.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Dave Healey bawb a oedd wedi galluogi’r Cyngor i gyrraedd y pwynt hwn, gan ddweud pe bai’r Cyngor yn cyrraedd statws di-garbon net erbyn 2030, na fyddai ond yn gyfrifol am 3% o’r allyriadau carbon.  Dywedodd bod y thema ymddygiad yn dod â phopeth ynghyd a bod rhaid datblygu strategaethau i estyn allan i’r sir gyfan.  Cefnogodd awgrym yr Arweinydd am sefydlu “Panel Ymgynghori Plant a Myfyrwyr”, gan longyfarch trigolion Sir y Fflint am y ffordd y maent wedi croesawu’r polisi ailgylchu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones gwestiynau am allyriadau, plannu coed, colli coed ac ynysu adeiladau.   Mewn ymateb, darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) eglurhad o’r cyllid a’r gwaith cynnal a chadw hirdymor ar y coed ym Mharc Gwepre, a’r data a gasglwyd am goed a gollwyd i’r Clefyd Coed Ynn.

 

Darparodd Rheolwr y Rhaglen esboniad o’r gwahanol dirweddau lle gellid clustnodi amsugniad carbon.  Roedd yn bwysig clustnodi a mapio’r gwahanol dirweddau a mathau o gynefinoedd oedd yn bodoli ledled y sir, er mwyn pennu’r ffigurau amsugno carbon yn briodol.  Gan nad oedd y wybodaeth hon ar gael i bob ardal o dir Sir y Fflint, roedd y gwaith o fapio’r ardaloedd hynny wedi’i gynnwys fel cam gweithredu o fewn defnydd tir er mwyn cael gwell dealltwriaeth.   Aeth ymlaen i roi eglurhad o’r dull o adrodd ar ffactorau allyriadau i LlC, a’r ymagwedd tuag at blannu coed yn y dyfodol.  Dywedodd y Cynghorydd Tudor Jones fod hon yn dasg anodd yr oedd angen mynd i’r afael â hi nawr er mwyn dod i ddeall pa mor llwyddiannus y bu’r cynllun.

 

Adroddodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am ganlyniadau cadarnhaol o drafodaeth a gafwyd gydag un o'r trigolion yngl?n  â gosod paneli solar ar ei heiddo’n ddiweddar.  Cyfeiriodd at y gwaith a wnaed mewn blynyddoedd blaenorol ar draws portffolios ac at y cyllid a gafwyd gan LlC ar gyfer ysgolion, cyllid y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer tai carbon isel, parciau solar, gosod paneli solar ar eiddo, ynghyd â’r cynnydd yn y cyfraddau ailgylchu a goleuadau LED.  Teimlai y dylid rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i hyn er mwyn i’r trigolion ddod i ddeall yr hyn roedd y Cyngor wedi’i gyflawni dros y 12 mlynedd diwethaf, a thynnu sylw ato pan fo mwy o gyllid grant yn cael ei geisio gan LlC.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at rôl caffael yn y Strategaeth Newid Hinsawdd, a oedd wedi’i gynnwys fel amcan 3 ac yn y daflen camau gweithredu.  Roedd yn hanfodol bod pob agwedd ar y gadwyn gyflenwi yn cael eu nodi a’u cynnwys a bod caffael yn y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn cael ei ddatblygu.  Roedd caffael yn un o feysydd allweddol y Strategaeth Newid Hinsawdd, ac roedd yn cefnogi hyn yn llwyr wrth symud ymlaen.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Mike Peers y Strategaeth Newid Hinsawdd wrth symud ymlaen, ond roedd yn cytuno â’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Richard Jones y byddai hyn yn dibynnu ar y cyllid.  Gofynnodd gwestiynau am y Tariff Ynni Gwyrdd, tir a neilltuwyd ar gyfer plannu coed, mannau gwefru ceir a chludiant cyhoeddus.

 

Mewn ymateb, nododd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod hyn yn fater cymhleth iawn gyda rhai technolegau ddim ar gael eto.  Gan gyfeirio at blannu coed, nododd bod bioamrywiaeth yn cael ei ystyried a chadarnhaodd y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda chymunedau i sicrhau mai dyma’r peth iawn i’w wneud yn yr ardal honno.  Byddai hyn yn sicrhau yr ymgynghorwyd â’r cyhoedd a’u bod yn cytuno â’r hyn a gynigir yn y Strategaeth, ac yn ei gefnogi.   Gan gyfeirio at y pwyntiau a godwyd am gludiant cyhoeddus, cytunodd gyda’r sylwadau a wnaed, gan ddweud fod rhai o’r pethau y gellid eu darparu y tu hwnt i’w cwmpas, ond mai'r gobaith oedd y gallai hyn ddylanwadu ar ail gynnig am welliant i wasanaethau i’r cyfeiriad hwnnw. 

 

Fel Aelod Cabinet Datblygu Economaidd, diolchodd y Cynghorydd Derek Butler i’r Aelodau am eu cyfraniadau, gan ddweud bod cofnod a rhestr cyflawniadau’r Cyngor yn sylweddol ac yn ganmoladwy.  Ychwanegodd bod ardaloedd fel gwlyptiroedd a gwelyau cyrs yn dod â bioamrywiaeth arall ac yn helpu gyda d?r glanach.  Cyfeiriodd at Fframwaith Map Llwybrau at Ddatgarboneiddio’r Sector Cyhoeddus LlC, gan ddweud mai o’r pum amcan, ymddygiad oedd y pwysicaf, gan gychwyn gyda chamau bychain.  Canmolodd yr adroddiad, a oedd yn gosod targedau amlwg, gan ddiolch i’r tîm a oedd yn ei gyflwyno heddiw.

 

Fel Aelod Cabinet y Gwasanaethau Stryd, nododd y Cynghorydd Glyn Banks bod angen i bob unigolyn yn Sir y Fflint chwarae eu rhan, gan gychwyn gyda newidiadau bychain fel defnyddio’r Llwybrau Diogelach i'r Ysgol yn lle teithio mewn ceir, a gwneud y defnydd gorau o ailgylchu yn y cartref.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Hilary McGuill yr argymhellion, ond tynnodd sylw at bwysigrwydd rhoi’r camau gweithredu ar waith.  Dywedodd y dylid ystyried yn ofalus cyn cael gwared â choed mwy neu blannu rhai newydd yn eu lle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei fod yn gyfrifoldeb mawr ar y Cyngor i arwain yr ardal leol a chefnogi prosiectau datgarboneiddio yn y sector preifat. Roedd hwn yn fan cychwyn, gyda’r goblygiadau a’r penderfyniadau ariannol i’w pennu yn nes ymlaen.  Roedd rhaid i hon fod yn ddogfen fyw a fyddai’n cael ei hail-archwilio a’i hadolygu wrth agosáu at 2030.  Gan gyfeirio at y 30 mlynedd diwethaf, canmolodd y camau y mae nifer o bobl ifanc wedi’u cymryd i godi’r mater hwn, sydd wedi arwain at safbwynt LlC.

Gofynnod y Cynghorydd Helen Brown a ddylid aralleirio’r trefniadau llywodraethu a nodir ym mhwynt 23.2 i adlewyrchu unrhyw newidiadau wrth arwain at 2030.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod y geiriad yn gywir o ran enwi’r rhai a oedd wedi arwain ar y strategaeth ar y pryd.  Gan gyfeirio at sylwadau’r Cynghorydd Ibbotson, roedd y trydydd argymhelliad yn nodi y byddai hyfforddiant Llythrennedd Hinsawdd yn cael ei ddarparu fel elfen graidd o’r rhaglen gynefino ar gyfer pob Aelod.    Mewn ymateb i bwynt y Cynghorydd Thomas, dywedodd y Prif Swyddog bod argymhelliad 4 yn ymdrin â hyn, ac y byddai gwefan yn cael ei datblygu i amlygu’r hyn a gyflawnwyd yn y gorffennol a nodi’r heriau ar gyfer y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Dunbar at ddarparu mannau gwefru ceir trydan, gan nodi bod Sir y Fflint yn un o’r cynghorau sy’n arwain ar hyn.  Achubodd ar y cyfle i ganmol cyfraniad y bobl leol i’r cynllun plannu coed ym Mharc Gwepre.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Ian Roberts ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflawni mesurau lleihau carbon;

 

(b)          Cymeradwyo’r Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer 2022 - 2030 a’i nodau;

 

(c)          Trefnu sesiwn friffio ar gyfer Aelodau newydd yn dilyn yr etholiad i dynnu sylw at y gwaith a wnaed hyd yma ac ymrwymiadau’r Cyngor wrth symud ymlaen, a sicrhau bod y Strategaeth Newid Hinsawdd yn llunio rhan o Raglen Gynefino’r Aelodau; a

 

(d)          Diweddaru gwefan y Cyngor i gynnwys y Strategaeth Newid Hinsawdd.

 

 

Awdur yr adroddiad: Alex Ellis

Dyddiad cyhoeddi: 11/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 24/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau Atodol: