Manylion y penderfyniad

Diversity in Democracy Action Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive the Diversity in Democracy Action Plan

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) drosolwg o’r gwaith a wnaed yn 2017 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ddod i ddeall sut yr oedd cynghorwyr etholedig yn adlewyrchu demograffeg yr ardaloedd roeddent yn eu cynrychioli.  Mabwysiadwyd hwn gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf 2021.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar y gweithdai ble trafodwyd hyn, gyda’r Aelodau’n cefnogi’r cynllun gweithredu arfaethedig.  Roedd arferion da eisoes yn bodoli o fewn grwpiau gwleidyddol a’r pleidiau cenedlaethol i hybu a chynyddu amrywiaeth.  Y nod oedd cydnabod nad yw rhai rhannau o’n poblogaeth yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar y Cyngor, ac edrych ar y rhesymau am hyn a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau. Gallai hyn arwain at amrediad mwy amrywiol o ymgeiswyr ar y papurau pleidleisio, a fyddai’n cynnig mwy o ddewis i’r etholwyr.

 

Roedd y cynllun gweithredu wedi’i rannu’n 11 o ffrydiau gwaith, gyda phob un â’r nod o godi ymwybyddiaeth o rôl cynghorydd, y manteision a’r broses o sefyll mewn etholiad.  Rhoddwyd sicrwydd hefyd y byddai hyfforddiant a chymorth yn cael eu darparu ar ôl i’r cynghorwyr gael eu hethol.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y proffilio ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, gan roi gwybodaeth am y datganiad i’r wasg a phroffiliau cynghorwyr benywaidd i annog mwy o ferched i sefyll mewn etholiad.

 

            Arweiniodd adborth o’r gweithdai a gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd at i sawl Aelod nodi y byddai hyn wedi bod yn fuddiol pan oeddent hwy’n sefyll mewn etholiad.  Darparwyd trosolwg o’r camau a gymerwyd a’r gwaith y mae angen ei wneud i gynhyrchu'r lefel hon o newid, gydag awgrymiadau cadarnhaol yn codi o’r gweithdai, megis proffilio cynghorwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.  Rhwystr arall oedd cael amser o’r gwaith i fynd i gyfarfodydd, ac roedd trafodaethau’n cael eu cynnal â chyflogwyr i fynd i’r afael â hyn a chynnig gwell dealltwriaeth o’r rôl.   Awgrymwyd hefyd y dylid cwtogi’r pecyn gwybodaeth a roddir i Aelodau adeg cyfrif yr etholiad, gan roi mwy o wybodaeth wedyn yn y sesiynau cynefino.

 

            Byddai’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yn cynnal sesiynau briffio ymwybyddiaeth o etholiadau ar-lein cyn bo hir i ateb cwestiynau, darparu gwybodaeth a sicrhau bod y Cynllun Gweithredu Amrywiaeth yn llwyddo.

 

            Teimlai’r Cynghorydd Tony Sharps mai cyfrifoldeb y pleidiau gwleidyddol oedd darparu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey pe byddai’r cymorth a amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei ddarparu, y byddai’n fuddiol iawn i Aelodau newydd ac y dylid ei ddatblygu ymhellach.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Neville Phillips ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Michelle Perfect.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cynllun gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

 

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 11/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 24/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: