Manylion y penderfyniad

All Wales Standards Conference 2022 Report Back

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cynhelir y cynadleddau bob dwy flynedd, ond bod cynhadledd 2020 wedi’i gohirio tan eleni.  Trefnwyd y cynadleddau gan y swyddogion monitro ym mhob rhanbarth, a thro Gogledd Cymru oedd hi eleni.  Adroddiad Penn oedd y canolbwynt a dyma’r adolygiad mwyaf a’r manylaf o’r Cod Ymddygiad ers ei gyflwyno gyda Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

            Darparodd drosolwg manwl o’r gynhadledd a chrynodeb o’r argymhellion a’r penderfyniad a wnaed, gyda rhannau yn gofyn am newidiadau i ddeddfwriaeth a rhannau y gellir eu mabwysiadu’n wirfoddol.  Cynhelir trafodaeth dros yr haf gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar y newidiadau i’r ddeddfwriaeth. 

 

            Argymhellodd y Cadeirydd bod aelodau’r Pwyllgor yn mynychu’r nesaf i wrando ar safbwyntiau awdurdodau eraill, yr Ombwdsmon a siaradwyr eraill.  Darparodd adolygiad manwl o’r cyflwyniadau, y testunau a drafodwyd a rhannu arferion gorau a oedd yn cynnwys trafodaeth am y Cod Ymddygiad.  Recordiwyd y gynhadledd, a holodd y Cadeirydd a oedd modd rhannu’r fideo.   Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai Gwynedd a gynhaliodd y sesiwn dros Zoom a byddai’n holi.  Cynhelir y gynhadledd nesaf yn Ne Cymru yn 2024.

 

            Roedd Gill Murgatroyd wedi mynychu’r gynhadledd hefyd, gan nodi ei bod yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol.   Cyfeiriodd at y trafodaethau gyda Phanel Dyfarnu Cymru a chynrychiolwyr LlC? o ran terfynau amser ar gyfer argymhellion Adolygiad Penn a holodd a oedd gan y Swyddog Monitro sylwadau am hyn.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n cyfarfod gyda LlC a swyddfa’r Ombwdsmon dros yr haf i drafod sut y gellir symud ymlaen a’u gweithredu. 

 

            Holodd David Davies a oedd unrhyw awgrym o ran a fyddai LlC yn derbyn holl argymhellion Penn neu a fyddai gwrthwynebiad gwleidyddol.   Eglurodd y Swyddog Monitro bod Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol wedi mynychu ond na roddodd unrhyw syniad o ran y tebygolrwydd y byddant yn derbyn yr argymhellion penodol yn dilyn trafodaethau gyda’r budd-ddeiliaid yr effeithir arnynt.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan Jacqueline Guest a’i eilio gan Gill Murgatroyd.

 

PENDERFYNWYD:

Y croesawyd yr adroddiad ar y gynhadledd a bod y Pwyllgor yn cytuno i ymgorffori’r gwaith sy’n codi yn dilyn Adolygiad Penn o’r Drefn Foesegol yn y rhaglen waith wrth iddynt ddod i’r amlwg.

 

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)

Dyddiad cyhoeddi: 01/09/2023

Dyddiad y penderfyniad: 04/07/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/07/2022 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: