Manylion y penderfyniad

WLGA Fair Campaigns Pledge

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To raise awareness of the WLGA campaign to promote positive election campaigns based on the issues/facts

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y ffaith fod natur dadleuon gwleidyddol yn mynd yn fwy bras, gyda’r enghreifftiau mwyaf eithafol yn arwain at ymosodiadau angheuol ar Aelodau Seneddol, gyda cham-drin corfforol, cam-drin eiddo a cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol i’w gweld ar bob lefel o’r llywodraeth.   Er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa hon sy’n gwaethygu, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi bod yn hyrwyddo Addewid Ymgyrchoedd Teg, sy’n nodi “y bydd ymgeiswyr yn ymgyrchu ar sail materion a pholisïau yn hytrach na phersonoliaethau eu gwrthwynebwyr gwleidyddol”.   Roedd Sir y Fflint yn gofyn i’w Aelodau ymrwymo i’r Addewid Ymgyrchoedd Teg ac os cefnogwyd hyn, byddai’r Prif Swyddog a’r Prif Weithredwr yn gofyn i ymgeiswyr newydd ymrwymo i’r Addewid Ymgyrchoedd Teg.

 

Wrth alw am gefnogaeth yr holl Aelodau, ac fel Arweinydd y Cyngor, cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion ac annog pob Arweinydd Gr?p i wneud yr addewid ar ran eu grwpiau.  Cadarnhaodd mai ef oedd un o’r llofnodwyr gwreiddiol pan gyflwynwyd hyn ger bron Pwyllgor Gwaith CLlLC, gyda holl Arweinwyr y Cynghorau yn llofnodi’r Addewid.  Er nad oedd ganddo broblem gyda dadleuon cyhoeddus cadarn am faterion perthnasol, dywedodd na ddylai hyn gynnwys ymosod ar bersonoliaethau na chamdriniaeth, a oedd yn diraddio’r holl broses ddemocrataidd.  Wrth gyfeirio at effaith camdriniaeth o’r fath, roedd yn cefnogi’r addewid ymgyrchu yn gyfan gwbl ar ei ran ei hun a’r blaid Lafur.

 

Eiliodd y Cynghorydd Mike Peers y cynnig.  Er y gofynnwyd i Arweinwyr y Grwpiau wneud yr addewid ar ran eu grwpiau, dywedodd mai penderfyniad Aelodau grwpiau unigol oedd ymrwymo i ymgyrchu teg a phleidleisio fel y mynnant, ac nid ei le ef oedd gwneud addewid ar eu rhan.  Gan gyfeirio at Adran 1.03 yr adroddiad, dywedodd fod Aelodau sy’n gwasanaethu ac yn sefyll i gael eu hail-ethol wedi’u rhwymo i’r Cod Ymddygiad statudol y bu iddynt ei lofnodi wrth ddechrau yn y swydd.    Cytunodd â’r sylwadau a wnaed gan yr Arweinydd, ac roedd hefyd wedi bod yn dyst i ddigwyddiadau difrifol ac yn gobeithio y byddai eleni’n wahanol.   Dywedodd fod yr Addewid Ymgyrchoedd Teg yn ein hatgoffa sut y dylai Aelodau ymddwyn yn ystod cyfnod yr etholiad, a bod adran 1.04 yn cynnwys dolen at wybodaeth am y safonau disgwyliedig a bod y Cod Ymddygiad yn dal i fod yn gymwys.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Chris Dolphin yr argymhellion, gan gydnabod agweddau cadarnhaol y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’r rhai nad oeddent mor gadarnhaol.

 

Ymrwymodd y Cynghorydd Clive Carver i'w addewid ei hun, er na fyddai’n sefyll i gael ei ail-ethol. 

 

Cytunodd y Cynghorydd Tony Sharps â sylwadau’r Arweinydd, gan ddweud fod ei gr?p ef yn cefnogi’r Addewid yn unfrydol. 

 

            Yn ystod y drafodaeth, gofynnodd y Cynghorydd Ian Roberts am bleidlais wedi’i chofnodi, a dangosodd y nifer gofynnol o Aelodau eu cefnogaeth.    Ar ôl rhoi’r mater i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion yn unfrydol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Y byddai pob Cynghorydd sy’n ceisio cael eu hail-ethol yn gwneud Addewid Ymgyrchoedd Teg, ac

 

(b)          Y byddai cais yn cael ei wneud i’r Swyddog Canlyniadau ofyn i bob ymgeisydd yn yr etholiadau sydd i ddod wneud Addewid Ymgyrchoedd Teg.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 11/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 24/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: