Manylion y penderfyniad

Asset Pooling and WPP Annual Updates

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Yn y Cyd-bwyllgor Llywodraethu (“JGC”) diwethaf, cytunwyd y dylid ymestyn y contract gyda Gweithredwr Link Fund Solutions hyd at fis Rhagfyr 2024.  Ychwanegodd Mr Latham y gwnaed cynnydd o ran penodi cynrychiolydd aelod cyfetholedig i’r JGC a dylid rhoi hyn ar waith erbyn y JGC nesaf ym mis Mehefin 2022.

 

Eglurodd Mr Latham na fyddai cynllun busnes WPP yn cael ei gyhoeddi mewn pryd ar gyfer Pwyllgor mis Mawrth 2022, ond byddai ar gael erbyn Pwyllgor mis Mehefin 2022.  Yn ogystal â hyn, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ganllawiau cyfuno asedau CPLlL yn yr haf 2022.

 

Cadarnhaodd Mrs Fielder y bydd cyflwyniadau gan ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer penodi ‘dyranwyr’ y Farchnad Breifat yng Nghaerdydd yr wythnos ganlynol.  Rôl y dyranwyr fyddai dewis y gorau o ran rheolwyr marchnad breifat ar draws y dosbarthiadau asedau gwahanol.  Rhagwelir y bydd tendr i benodi Dyrannwr Ecwiti Preifat yn dechrau ym mis Ebrill 2022.

 

Cyflwynodd Mr Gough ei hun fel uwch reolwr perthynas ar gyfer Link Fund Solutions ac fe eglurodd y cyflwyniad.  Eglurodd i’r Pwyllgor bod disgwyl i Link Fund Solutions gael eu gwerthu i drydydd parti o’r enw Dye & Durham ond nid oedd yn credu y byddai hyn yn cael unrhyw effaith o ddydd i ddydd ar WPP.  Nododd y byddai gan yr endid gynllun clir ac roedd yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.

 

Holodd Mrs McWilliam a oedd hyn yn risg ar gyfer y Gronfa.  Nid oedd Mr Gough yn credu bod hyn yn risg mawr ond byddai’n diweddaru’r Pwyllgor wrth i’r mater ddatblygu.  Cadarnhaodd Mr Latham bod Gweithgor Swyddogion (“OWP”) a JGC yn monitro unrhyw risg sy’n gysylltiedig â hyn.

 

            Cyflwynodd Mr Gough strwythur buddsoddiadau WPP o dudalen 123 a’r buddsoddiadau presennol ar gyfer y Gronfa o fewn WPP ar dudalen 124.   Ar y cyfan, roedd gan WPP gyfanswm asedau o dan reolaeth o oddeutu £10.5 biliwn fel y nodwyd ar dudalen 125.

 

Cyflwynodd Mr Quinn ei hun fel cyfarwyddwr cyswllt a Mr Pearce fel uwch reolwr portffolio yn Russell Investments.

 

Nododd Mr Pearce y pwyntiau allweddol canlynol ar yr eitem hon ar y rhaglen:

 

-       Mae gan Russell Investments ddadansoddwyr ymchwil ledled y byd ac mae eu hymchwil ar reolwyr yn uno rheolwyr buddsoddi ac arbenigwyr rhanbarthol.

-       Roedd tudalen 128 yn amlinellu tueddiadau perfformiad y farchnad ers llunio portffolios WPP.  Y llinell ddu doredig yng nghanol y graff oedd Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang WPP.  Roedd y llinell oren ar y graff yn cynrychioli twf.  Nododd Mr Pearce bod mathau penodol o fuddsoddi yn aml yn cynnwys perfformio’n sylweddol well ond dros amser bydd dychweliad cymedr h.y. lle bydd twf yn dod yn ôl ar gyfer mathau eraill.

-       Cyflwynwyd dadansoddiad o Gronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang WPP ar dudalen 129.  Ychwanegodd Mr Pearce y cyflwynwyd rheolwr newydd yn Siapan ym mis Rhagfyr 2021 o’r enw Nissay i gymryd lle NWQ.   Cadarnhaodd y byddent yn parhau i adael NWQ yn ofalus nes bo’r holl gysylltiad yn Siapan gyda’r rheolwr arbenigol arall. 

-       Roedd y llynedd yn dangos arenillion gwych yn y farchnad ar y farchnad ecwiti.  Fel yr amlinellwyd ar dudalen 130, roedd y bar trwm yn dangos bod arenillion sector perfformiad y farchnad ychydig o dan 20%. 

-       Roedd y tabl ar frig tudalen 131 yn amlinellu perfformiad hyd at 31 Rhagfyr 2021, ac roedd Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang WPP yn is na’r meincnod ar gyfer Ch4 2021.  Er hynny, yn hirdymor roedd yn uwch na’r meincnod fel y nodwyd yn y tabl ar waelod tudalen 131.

-       Roedd tudalen 132 yn dangos perfformiad y rheolwyr yn erbyn eu meincnodau penodol ar ddiwedd Ionawr 2022 (wedi’u nodi mewn gwyrdd a choch).  Eglurodd Mr Pearce os yw Russell Investments yn gwneud eu gwaith yn dda dros amser drwy ychwanegu gwerth, byddai’r cyfan yn wyrdd.  Roedd yr amrywiaeth o liwiau yn y siart yn dangos buddion arallgyfeirio gan fod gwahanol arddulliau yn ychwanegu gwerth ar adegau gwahanol yn y cylch economaidd.  

-       O’r siart sector ar dudalen 133, roedd cyllid yn ordrwm ond o ran rhanbarthau, mae marchnadoedd yr UDA yn parhau i fod yn ddrud felly roedd Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang WPP dan bwysau ym marchnad yr UDA ac felly dros bwysau mewn rhanbarthau eraill, yn bennaf marchnadoedd sy’n datblygu ac Ewrop.

-       O ran ymchwil rheolwyr, mae’r holl ddadansoddwyr ymchwil yn treulio o leiaf rhywfaint o amser yn canolbwyntio’n llwyr ar ESG.

-       O ystyried ymrwymiad cyhoeddus Cronfa Bensiynau Clwyd i gael dim allyriadau carbon net erbyn 2045, mae Russell Investments hefyd wedi cyflwyno targed dim allyriadau carbon net erbyn 2050 ac felly’n gosod y fframwaith ar gyfer tryloywder ac adrodd ar gynnydd y datrysiadau yn erbyn targedau di-garbon net.

-       Roedd tudalen 138 yn amlinellu'r cysylltiad â charbon yn erbyn y meincnod.  Cadarnhaodd Mr Pearce bod tîm arbenigol sydd wedi gwirio bod arian WPP yn parhau i gael llai o gysylltiad â charbon yn y dyfodol.

 

Nododd Mr Quinn lansiad Is-gronfa Ecwiti Marchnadoedd sy’n Datblygu WPP y llynedd, a oedd yn ymwneud â Marchnadoedd sy’n Datblygu’n unig.  Ychwanegodd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

-       Ychwanegwyd arbenigwr Tsiena i’r is-gronfa o ystyried y pwysau cynyddol ym mynegai’r farchnad ac roedd yn credu bod cyfle da yn Tsiena o ran twf a’r farchnad ddomestig. 

-       Roedd tudalen 142 yn dangos sefyllfa ddiweddaraf yr is-gronfa o ddiwedd Hydref 2021 a’r chwe rheolwr gyda gwahanol arddulliau gan gynnwys arbenigwr Tsiena.  Er gwaethaf pwysau bychan sydd gan arbenigwr Tsiena, roedd Mr Quinn yn gyfforddus â’r maint ac yn credu y gall dyfu dros amser.

-       Nodwyd crynodeb datgarboneiddio a gweithrediad portffolio uwch (“EPI”) ar dudalen 143 ac roedd tystiolaeth bod hyn yn gweithio’n dda ar gyfer WPP.

-       O ystyried y dyhead i gael is-gronfa sy’n cyflawni mwy nag enillion ar fuddsoddiad h.y. wedi alinio â thargedau newid hinsawdd, roedd is-gronfa newydd yn cael ei sefydlu fel yr amlinellwyd ar dudalen 145.  Nododd Mr Quinn y byddai papur gyda rhagor o wybodaeth i ddilyn.

 

Eglurodd Mr Hibbert ei fod yn parhau i gael ei synnu â gweithrediad Russell Investments a gweld y ddamcaniaeth ar waith. 

 

O ran targed di-garbon net Russell Investments erbyn 2050, holodd Mrs Fielder a oedd cleientiaid gyda gwahanol dargedau o fewn WPP a sut yr oedd y cwmni yn delio â’r gwahanol safbwyntiau.  Eglurodd Mr Pearce ei fod yn dadansoddi pob cleient yn fyd-eang o ran beth sy’n bosibl o ran rheolwyr di-garbon net.  Roedd yn credu bod targedau dros dro (di-garbon net erbyn 2025 a 2030) yn bwysicach i ganolbwyntio arnynt i ddechrau ac wedi hynny byddai’r targed cyffredinol yn dod yn ei flaen mewn amser.

 

            O ran Cod Stiwardiaeth FRC, nododd Mr Dickson nad oedd Russell Investments wedi’u rhestru fel llofnodydd i’r cod a gofynnodd pa gamau y gellir eu cymryd i gyflawni hyn.  Eglurodd Mr Pearce bod y Cod wedi newid yn sylweddol yn ddiweddar ac roedd Russell yn gweithio drwy’r gofynion.   Byddai rhagor o fanylion am hyn yn y misoedd nesaf.

 

            Gan fod gan reolwyr buddsoddi o fewn strwythur portffolio arddulliau gwahanol, holodd Mr Harkin sut mae Russell Investments yn delio â gwahanol safbwyntiau rheolwyr.  Holodd hefyd a oedd ganddynt y gallu i awgrymu eu safbwyntiau eu hunain o ystyried y tebygolrwydd o ddatgymalu cryf mewn cyfraddau llog yn y dyfodol, fel y gwelir yn yr UDA ar hyn o bryd.  Eglurodd Mr Pearce fod ganddynt dîm o arbenigwyr sy’n gweithio’n llawn amser fel economegwyr, yn dadansoddi’r farchnad yn ddyddiol, ac yn ystyried cyfraddau llog a diweithdra yn benodol.  Ychwanegodd bod un o aelodau’r tîm wedi gweithio ar gyfer Cronfa Wrth Gefn Ffederal yr UDA felly mae’n arbenigwr ar y mater.  Safbwynt presennol Russell yw y bydd niferoedd chwyddiant uchel, fel 5% ac uwch, yn lleihau wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen.  O ran y portffolio, o ystyried y lefelau parhaus y tu hwnt i’r twf cyfartalog, bydd chwyddiant yn lleihau.

 

            Ar dudalen 147, nododd Mr Quinn y lansiwyd Cronfa Credyd Aml-ased (“MAC”) ym mis Awst 2020 ac eglurodd bod sawl dosbarth asedau tanategol.  Roedd BlueBay yn arbenigwr aml-sector ac roedd ganddo fynediad at yr holl reolwyr arbenigol.

 

            Ers ei sefydlu, roedd perfformiad yr is-gronfa o fewn y disgwyliadau h.y. arenillion o 5.47% yn erbyn targed net o 4.11%, ond dros Ch4 2021, darparodd Cronfa MAC arenillion cytbwys, sy’n is na’r targed.

 

            Roedd perfformiad Cronfa MAC dros amser wedi’i adlewyrchu ar y graff ar dudalen 149.  Roedd y llinell doredig oren yn cynrychioli’r targed, sef arian parod + 4%, a’r llinellau du toredig yn adlewyrchu disgwyliadau Russell Investments drwy anwadalrwydd.  Yn ogystal â hyn, roedd y llinell las yn dangos disgwyliadau perfformiad Cronfa MAC.  O hyn, gellir gweld bod Cronfa MAC wedi cael dechrau da ond yn ddiweddar roedd llinell tuedd oren yn symud tuag at yr hyn a ddisgwylir.

 

            Nododd Mr Quinn bod adolygiad o Gronfa MAC wedi’i amlinellu ar dudalen 150.  Cadarnhaodd bod rheolwr y  gronfa Man GLG a rheolwr dyled y farchnad sy’n datblygu wedi cael trafferthion fel dosbarth ased o ystyried y pryderon yn Tsiena.  Roedd gwledydd eraill sy’n farchnadoedd sy’n datblygu wedi cael trafferthion hefyd, fel Twrci a Rwsia. Nododd Mr Quinn y byddai’n cadw llygad barcud ar y rheolwr i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas ar gyfer Cronfa MAC.

 

            Holodd Mrs Fielder a oedd y strategaethau o fewn Cronfa MAC yn rhai y gellir eu haddasu mor sydyn ac mor hawdd ag y mae i newid rheolwyr buddsoddi.  O ran strategaethau, nododd Mr Quinn eu bod yn seiliedig ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl.  Gan fod benthyciadau wedi bod yn drafferthus ym mis Mawrth 2020, roedd arenillion uchel hefyd wedi bod yn drafferthus.  Er gwaethaf hyn, mae’r holl ddosbarthiadau yn gwneud yn well ar adegau gwahanol am resymau gwahanol, a dyma pam yr oedd yn credu ei bod yn bwysig cael cysylltiad gwahanol â phob un ohonynt.  O ran y strategaethau newydd, roedd y rheolwr portffolio yn ystyried sut i reoli hyd a sensitifedd Cronfa MAC i gyfraddau llog a byddai trafodaethau ar y mater yn y misoedd sydd i ddod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi’r diweddariad; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor wedi derbyn y cyflwyniad gan Weithredwr a Rheolwr Buddsoddi Partneriaeth Pensiynau Cymru.

Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 07/04/2022

Dyddiad y penderfyniad: 09/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: