Manylion y penderfyniad

Funding, Flight-Path and Risk Management Framework

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, cadarnhaodd Mr Middleman bod gan y Gronfa lefel cyllid o 102% ar ddiwedd mis Rhagfyr, sy’n sefyllfa gref o hyd.   Roedd y lefel cyllid ar ddiwedd mis Rhagfyr yn is nag yn flaenorol yn bennaf oherwydd ffactorau strwythurol fel profiad aelodaeth ac adferiad McCloud (wedi’u cyfuno roedd y rhain yn rhoi oddeutu 3% o ostyngiad yn y lefel cyllid).

 

            Roedd Mr Middleman yn credu mai’r risg mwyaf ar gyfer y Gronfa oedd parhad chwyddiant eithaf uchel gan fod rhwymedigaethau’r Gronfa yn gysylltiedig yn uniongyrchol â chwyddiant, felly byddai chwyddiant sy’n uwch na’r disgwyl yn golygu cynnydd mewn costau, oni bai bod arenillion o asedau a ddisgwylir yn cynyddu i ddigolledu hynny.  Cadarnhaodd y byddai hyn yn fater i’w ystyried yn barhaus mewn Pwyllgorau yn y dyfodol wrth i’r Gronfa gyrraedd y dyddiad prisio actiwaraidd ar 31 Mawrth 2022.  Risg chwyddiant oedd y risg mwyaf sylweddol ar gyfer y Gronfa gyda chyllidebau cyflogwyr a chyfraniadau yn bwynt trafod allweddol.

 

Nodwyd addasiad i’r terfynau cyfatebol ym mharagraff 1.11 ynghyd â’r cynllun i addasu’r lefel cyfatebol a ddelir yn yr asedau arenillion uchel yn y gronfa gyfatebol cyn ei fuddsoddi yn y marchnadoedd preifat.

 

Atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor o’r trafodaethau yn y cyfarfodydd blaenorol yngl?n â gosod sbardun lefel cyllido o 110%.  Ers y drafodaeth honno, rhoddwyd ystyriaeth i lywodraethu’r broses i newid y strategaeth pe rhagorir ar y sbardun.   Eglurodd Mr Latham bod yr adroddiad yn cynnig bod y Pwyllgor yn cytuno i ffurfioli sbardun lefel cyllido o 110% ac roedd yn cynnwys proses arfaethedig, a oedd yn gosod y terfynau amser a’r cerrig milltir pe bai’r sbardun yn cael ei ddiwallu. Roedd y broses arfaethedig yn cynnwys cyfathrebu gyda’r Pwyllgor i egluro’r newidiadau arfaethedig i gael eu sylwadau. Yn y pendraw, gellir trefnu cyfarfod Pwyllgor arbennig i drafod y newidiadau pe bai unrhyw bryderon o ran lleihau risg yn cael eu codi yn adborth y Pwyllgor.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor y sbardun lefel cyllido o 110% a chytuno ar broses lleihau risg sbardun lefel cyllido.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf o ran Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid; a

 

(b)       Cytunodd y Pwyllgor ar y sbardun lefel cyllido o 110% a chytuno ar broses lleihau risg sbardun lefel cyllido.

Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 07/04/2022

Dyddiad y penderfyniad: 09/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: