Manylion y penderfyniad
Consultation on the draft Flintshire Well-being Assessment 2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consult the Local Authority’s
Overview and Scrutiny Committee, as a statutory consultee, on the
draft Flintshire Well-being Assessment 2022.
Penderfyniadau:
Cyd-gyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog Gweithredol Strategol Asesiad Lles Drafft Sir y Fflint 2022. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn i rai cyrff cyhoeddus penodol gydweithio dan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol lleol. Mae cyfrifoldebau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys paratoi a chyhoeddi asesiad lles lleol o dro i dro a chyn cyhoeddi ei Asesiad Lles Lleol, mae angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori â nifer o ymgyngoreion statudol, yn cynnwys Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Awdurdod Lleol. Atodwyd Asesiad Lles Drafft Sir y Fflint 2022 yn Atodiad A yr adroddiad er mwyn ei ystyried ac adrodd yn ôl.
Cynhyrchwyd yr Asesiad Lles drafft yn unol â chanllawiau statudol, ac felly roedd yn ceisio asesu a dadansoddi cyflwr lles lleol ar draws bedwar piler ac roedd hefyd yn:-
· Tynnu ar sawl adolygiad ac asesiad arall, megis yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth;
· Asesu a dadansoddi cyflwr lles o fewn cymunedau penodol ac ardal Sir y Fflint yn gyffredinol;
· Ystyried lles grwpiau / pobl leol;
· Myfyrio ar ragolygon o dueddiadau’r dyfodol; ac
· Anelu i nodi cydgysylltiadau ac achosion gwraidd sy’n effeithio ar les lleol.
Dywedodd y Swyddog Gweithredol Strategol bod arolwg ar-lein ar gael ar wefan y Cyngor er mwyn nodi unrhyw safbwyntiau ychwanegol cyn cyhoeddi’r Asesiad Lles terfynol cyn 5 Mai 2022.
Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton yr adroddiad a gwnaeth sylw ar natur eang yr asesiad lles. Gwnaeth sylw ar ei rôl fel Aelod o Awdurdod Tân Gogledd Cymru ac amlinellodd y gwaith a wnaed i ddarparu cymorth i’r boblogaeth o bobl h?n a’r gwaith ataliol a wnaed i gefnogi’r boblogaeth o fyfyrwyr. Dywedodd ei fod wedi darllen adroddiad yn ddiweddar gan y Comisiynydd Plant a oedd yn amlinellu’r pryderon ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a gofynnodd sut yr oedd nifer y plant â phrofiadau niweidiol yn cael ei nodi yn Sir y Fflint.
Ymatebodd y Swyddog Gweithredol Strategol gan ddweud bod yr ystadegau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi’u darparu yn yr adroddiad ond roeddent ar sail Cymru gyfan yn hytrach na data lleol. Roedd ystod eang o ffactorau a allai effeithio ar ddatblygiad plentyn ac mae’r asesiad lles yn ystyried y rhain ochr yn ochr ag effeithiau cymunedol megis tlodi, gwahaniaethu ac ansawdd tai. Cytunodd i gysylltu â chydweithwyr a darparu manylion am nifer y plant yn Sir y Fflint â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai pawb wedi cael Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod, megis, colli rhiant a rhieni wedi ysgaru. Mae’r term Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn ymwneud â phlentyn sydd wedi cael nifer o brofiadau niweidiol a’r effaith mae hyn wedi’i gael arnynt. Adroddodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Ganolfan Cymorth Cynnar a sefydlwyd yn Sir y Fflint sawl blwyddyn yn ôl i gynorthwyo plant a theuluoedd yn delio â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Roedd y Ganolfan hon wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r teuluoedd hynny dros y blynyddoedd.
Ceisiodd y Cynghorydd Arnold Woolley eglurder yngl?n â’r paragraff ar asesu risg ac asesiad effaith yr adroddiad lle’r oedd yn credu bod camgymeriad teipio. Gwnaeth sylw ar y defnydd o’r cysyniad o ‘Sir y Fflint fel pentref o 100 o bobl’ a oedd yn ei farn ef yn fan cychwyn digonol ond roedd yn pryderu am gyfyngiadau hyn. Gwnaeth sylw hefyd ar faterion tai a p’un a oedd pobl yn berchen ar eu cartref eu hunain, yn byw mewn tai Cyngor neu dai rhent ac a oedd hyn yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau a gwnaeth sylw ar y problemau a wynebir yn y sector rhent yn ymwneud â chyllid a throi allan. Soniodd hefyd am y broblem sylweddol o ran cyffuriau a oedd yn effeithio ar gymunedau ac a oedd yn effeithio ar blant ac roedd yn croesawu ymweliadau Heddlu Gogledd Cymru ag ysgolion i drafod y broblem hon gyda phlant. Dywedodd fod ganddo nifer o sylwadau ar y ddogfen Asesiad Lles a byddai’n anfon y rhain at y Swyddog Gweithredol Strategol ar ôl y cyfarfod.
Siaradodd sawl Aelod o blaid defnyddio’r cysyniad o ‘Sir y Fflint fel pentref o 100 o bobl’ a pha mor hawdd i’w ddarllen oedd yr Asesiad Lles. Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson ei fod yn gobeithio y byddai’r Asesiad Lles yn cael ei ddosbarthu’n eang a’i gyfeirio ato yn y dyfodol oherwydd ei fod yn disgrifio craidd yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud.
Tynnodd yr Hwylusydd sylw’r Pwyllgor at argymhelliad yr adroddiad a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor ddarparu adborth. Awgrymodd efallai y byddai’r Pwyllgor eisiau ystyried diwygio’r argymhelliad i adlewyrchu’r sylwadau a wnaed gan Aelodau ei fod yn cefnogi Asesiad Lles Drafft Sir y Fflint, fel y cyflwynwyd yn Atodiad A.
Cafodd yr argymhelliad, a gafodd ei ddiwygio i adlewyrchu’r drafodaeth, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Richard Lloyd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi Asesiad Lles drafft Sir y Fflint fel y’i cyflwynwyd.
Awdur yr adroddiad: Kelly Oldham-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 26/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 10/03/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/03/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: