Manylion y penderfyniad
Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the Housing Revenue Account (HRA)
Budget for 2022/23, the HRA Business Plan and the summary 30 year
Financial Business Plan for approval.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gymeradwyo cyllideb Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) arfaethedig ar gyfer 2022/23, Cynllun Busnes yr HRA a'r Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd cryno fel yr argymhellir gan y Cabinet. Rhoddodd y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) gyflwyniad ar y canlynol:
· Polisi Rhent Llywodraeth Cymru (LlC)
· Codiad Rhent Arfaethedig 2022/23
· Llywodraeth Cymru - Cytundeb Rhentu Ehangach
· Costau Gwasanaeth
· Incwm Arall
· Cynnig Buddsoddi i Arbed
· Pwysau Arfaethedig ac Effeithlonrwydd
· Cronfeydd wrth gefn
· Cynllun Busnes HRA 2022/23
· Buddsoddiad Cyfalaf HRA
· Rhaglen Gyfalaf
· Datblygu Safonau Ansawdd Tai Cymru diwygiedig (SATC)
· Rhaglen Gyfalaf 2022/23
· Cyllid Cyfalaf HRA 2022/23
Roedd y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn bodloni gofynion Polisi Rhent LlC i ystyried fforddiadwyedd a gwerth am arian i denantiaid. Yn 2020/21 cytunwyd i ohirio'r cynnydd graddol terfynol mewn taliadau gwasanaeth, gyda'r bwriad o warchod tenantiaid a allai fod yn cael trafferthion ariannol o ganlyniad i Covid-19. Cynigiwyd bod y cynnydd yma'n cael ei rewi eto yn 2022/23 oherwydd effaith barhaus y pandemig. Cynigiwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwyd o safon uchel, yn cynrychioli gwerth am arian, a bod y gwir gostau yn cael eu hadlewyrchu yng nghyfrifiadau taliadau'r gwasanaeth.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Ian Dunbar. Siaradodd y Cynghorydd Dunbar o blaid y Rhaglen Gyfalaf. Roedd pedwar cynllun i fod i ddechrau ar y safle ar unwaith a byddai hynny'n darparu 77 eiddo ychwanegol i'r stoc dai.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Smith ei fod yn cefnogi'r cynnydd arfaethedig mewn rhent ac nad oedd yn rhy uchel yn ei farn ef, a byddai tenantiaid yn ei groesawu o ystyried y cynnydd uchel mewn costau byw a chostau ynni.
Ar ôl cael ei gynnig a'i eilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.
PENDERFYNWYD:
Bod cyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 fel y nodir yn yr atodiadau yn cael ei chefnogi a'i chymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 09/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol:
- Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan PDF 73 KB
- Appendix 1 - Housing Revenue Account (HRA) Cabinet Report - 15.02.2022 PDF 118 KB
- Appendix A - Cabinet Report 15.02.2022 PDF 407 KB
- Appendix B - Cabinet Report 15.02.2022 PDF 69 KB
- Appendix C - Cabinet Report 15.02.2022 PDF 227 KB
- Appendix D - Cabinet Report 15.02.2022 PDF 114 KB