Manylion y penderfyniad
Flintshire Economy Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the state of the economy in Flintshire and on work programmes to assist recovery.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o amodau economaidd presennol y rhanbarth a’r Sir, gan ddefnyddio gwybodaeth o nifer o ffynonellau. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion y strwythurau llywodraethu a oedd mewn lle i ymateb i adferiad economaidd a’r rhaglenni gwaith a oedd ar y gweill ar hyn o bryd.
Nid oedd effeithiau pandemig Covid-19 ac ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn amlwg eto, ac roeddent yn dal i esblygu.
Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am Brexit; Covid-19; diweddariad economaidd; ystadau masnachol; ardrethi busnes; canol trefi ac ymatebion rhanbarthol a lleol.
Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hwn yn adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth yr oedd y Pwyllgor Adfer wedi gofyn amdano ac wedi’i groesawu. Ychwanegodd nad oedd cymaint o swyddi wedi’u dileu ar raddfa fawr ag y disgwylid yn dilyn Covid. Roedd lefel uchel o swyddi gwag ym meysydd nyrsio, gofal personol, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cegin ac arlwyo, glanhawyr a gyrwyr faniau a oedd yn anodd eu llenwi.
Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r adroddiad a oedd yn darparu asesiad cryf o’r economi. Diolchodd i’r swyddogion am yr adroddiad.
Croesawodd y Cynghorwyr Bithell a Johnson yr adroddiad gan ddweud fod Sir y Fflint wedi cael ei chrybwyll ym mhapur y Sunday Times. Dywedodd yr adroddiad fod Sir y Fflint yn mynd yn groes i’r duedd o ran adferiad a bod y ffigyrau wedi gwella ar y Mynegai Cystadleurwydd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Weithredwr fod trafodaeth wedi’i chynnal yn y Pwyllgor Adfer yngl?n â sgiliau a chreu cyswllt gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC). Gofynnodd y Pwyllgor i gynrychiolydd o BUEGC fynychu cyfarfod yn y dyfodol i esbonio sut yr oeddent yn creu cyswllt â Sir y Fflint i yrru’r economi leol ymlaen.
PENDERFYNWYD:
Bod cynnwys a chasgliadau’r adroddiad yn cael eu nodi a’u cefnogi.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/01/2022
Dogfennau Atodol: