Manylion y penderfyniad
Capital Strategy 2022/23 – 2024/25
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To present the Capital Strategy 2022/23
– 2024/25 for approval
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Gyfalaf y Cyngor. Roedd yn egluro’r gofynion ar gyfer y Strategaeth, ei hamcanion allweddol a chynnwys pob un o’i hadrannau
Dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), roedd angen i awdurdodau bennu ystod o Ddangosyddion Darbodus. Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion am Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23–2024/25.
Nodau allweddol y Strategaeth oedd egluro sut yr oedd y Rhaglen Gyfalaf wedi’i datblygu a’i hariannu, yr effaith y gallai ei chael ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r modd yr oedd yn gysylltiedig â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor. Roedd y Strategaeth yn ddogfen hollgwmpasog a chyfeiriai at ddogfennau eraill fel y Rhaglen Gyfalaf, y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw. Roedd y Strategaeth wedi’i rhannu’n sawl adran, a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet ac nid oedd unrhyw faterion wedi’u codi.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Mullin.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r swyddogion am yr holl waith a wnaed ar yr adroddiad, a oedd yn dangos bod y Strategaeth wedi’i chyllido’n ddigonol, wedi’i phrofi ac yn gynaliadwy.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf; a
(b) Chymeradwyo’r canlynol:
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2022/23–2024/25 fel yr oedd Tablau 1, a 4–7 yn eu nodi yn y Strategaeth Gyfalaf; a
· Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 yn y Strategaeth Gyfalaf).
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2021 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: