Manylion y penderfyniad

Vehicle Permit Criteria for Household Recycling Centres

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek Scrutiny approval to revise the Household Recycling Centre van permit application criteria.

Penderfyniadau:

            Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y Cabinet wedi gofyn am adolygiad yn dilyn y ddau weithdy a gynhaliwyd i aelodau fis Gorffennaf 2021. Cynllun pasys cerbyd yw’r ffordd decaf i sicrhau mynediad a phenderfynu ar ddefnydd anghyfreithlon gan fasnachwyr. Roedd yr adborth o’r gweithdai ym mis Gorffennaf 2021 yn dweud bod y polisi’n ddryslyd ac yn amwys, sydd, yn anfwriadol, wedi arwain at fasnachwyr yn camddefnyddio’r system ac yn gwaredu gwastraff masnachol, nad ydym i fod i’w dderbyn, yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae problemau wedi bod ar y safleoedd gyda staff yn profi cam-drin geiriol a chorfforol, a hynny wedi arwain at alw’r heddlu.

 

            Pwrpas yr adolygiad oedd gwneud y polisi’n gliriach, yn llai amwys ac yn haws ei ddeall. Roedd hefyd yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd gan adael i fasnachwyr ddod â’u gwastraff cartref i’r safle (e.e. plymiwr yn dod â gwastraff gardd yn defnyddio pas untro). Unwaith eto, mewn ymateb i adborth yn ystod y gweithdai i Aelodau, cynigiwyd system archebu ar gyfer asbestos a deunyddiau peryglus eraill a matresi mawr. Cyfeiriodd at Atodiad 1 sy’n amlinellu’r newidiadau allweddol a soniodd y bydd angen pas ar gyfer pob trelar, beth bynnag ei faint. Mae’r broses ymgeisio ar-lein bellach yn gliriach ac yn cyfyngu ar y gwrthdaro gan fod hynny wedi’i wneud ar y safle o’r blaen. Bydd pasys yn cael eu neilltuo i safleoedd penodol i ddirymu’r angen i ddeiliaid pasys deithio i wahanol safleoedd i waredu eu gwastraff. Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno fis Ebrill 2022 er mwyn rhoi amser i’r gwasanaeth gyfathrebu gyda deiliaid pasys presennol ac egluro’r gofynion newydd a hysbysebu’r system newydd. Bydd taflenni’n cael eu darparu cyn y dyddiad cyflwyno ym mis Ebrill er mwyn caniatáu cyfnod gras. Mae Atodiad 2 yn amlygu’r polisi casglu presennol. Bydd rhwystrau hefyd yn cael eu gosod ar y safle i helpu’r staff. Mae gwybodaeth am y system archebu ar gael yn Atodiad 3.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas am eglurhad ynghylch maint y trelars a ganiateir ar y safle a lle mae modd cael y pasys. Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod modd dod â threlar o unrhyw faint ar y safle, yn rhad ac am ddim. Mae yna broses ar-lein i wneud cais am bas wedi’i ddarparu yn Alltami gyda gwiriadau gweledol a ffotograffau ar-lein. Mae hyn yn gweithio’n dda ac wedi bod ar waith ers blwyddyn. Mae Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu yn dal yn darparu cymorth ar gyfer hyn ac mae staff Alltami yn cynnal asesiadau. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint yn ardderchog ac yn darparu gwasanaeth gwych i drigolion gyda staff sy’n barod iawn eu cymwynas.

           

            Gofynnodd y Cadeirydd a oes modd dod â cherbydau gydag arwyddion busnes arnynt i’r safleoedd. Mewn ymateb, dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod modd i bobl gael dau bas untro bob blwyddyn i ddod â cherbydau busnes i’r safleoedd ar yr amod eu bod yn gwaredu eu gwastraff cartref eu hunain.

 

            Roedd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd yn falch iawn o’r polisi a oedd yn diogelu’r gweithlu o ran gwaredu gwastraff peryglus fel asbestos. Mae hefyd yn darparu sicrwydd i drigolion pan fyddant yn teithio i’r safleoedd i waredu matresi.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Owen Thomas a Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cefnogi’r Polisi Pasys Cerbyd newydd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cefnogi meini prawf y system archebu newydd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

 

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 17/02/2022

Dyddiad y penderfyniad: 11/01/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: