Manylion y penderfyniad
Council Plan 2021-22 Mid-Year Performance Reporting
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the levels of progress in the achievement of activities and performance levels as identified in the Council Plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddogion yr adroddiad monitro canol blwyddyn i adolygu cynnydd yn erbyn eu blaenoriaethau perthnasol fel y’u nodwyd ym Mesurau Adrodd 2020/21 y Cyngor, o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor. Mae’r adroddiad seiliedig ar eithriadau hwn yn canolbwyntio ar feysydd o dan-berfformiad yn erbyn targedau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn.
Roedd gan Gynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi dri dangosydd â statws coch o ganlyniad i berfformiad presennol yn erbyn y targed. Y prif ffactorau cyfrannol oedd heriau recriwtio a newidiadau mewn arferion gweithio oherwydd yr ansicrwydd parhaus y mae'r pandemig yn ei achosi.
Effaith y pandemig hefyd oedd y prif reswm am y tri dangosydd coch ym mhortffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant. O ran ailgylchu, roedd perfformiad yn is na'r targed o ganlyniad i gynnydd mewn gwastraff gweddilliol.
Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y tîm Gwasanaethau Stryd am eu gwaith yn ystod y tywydd garw diweddar. Cydnabu’r heriau o ran recriwtio, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, sy’n broblem genedlaethol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) bod gwaith ar y gweill ar draws y portffolios i ddynodi meysydd sy'n cael anhawster recriwtio i swyddi gwag.
O ran perfformiad ailgylchu, gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks i’r aelodau annog preswylwyr i chwarae eu rhan i helpu i gyrraedd y targed o 70%.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Derek Butler at ffair swyddi lwyddiannus ddiweddar.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r dangosyddion perfformiad canol blwyddyn ar gyfer Adfer, Portffolio ac Atebolrwydd Cyhoeddus i fonitro meysydd o danberfformiad.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol: