Manylion y penderfyniad
Welsh Government Consultation on Local Taxes for Second Homes and Self-catering Accommodation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To set out the Councils response on policy and
practical considerations on the use of local taxes for the
self-catering accommodation sector and the use of the Council Tax
premium scheme for second homes and long term empty
properties.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch newidiadau posibl i’r system drethu leol, gyda’r nod o gefnogi awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar ar gymunedau.
Ychwanegodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn am ein barn ynghylch:
· Pa mor effeithiol yw premiymau i fynd i’r afael â materion tai
· Sut mae modd i awdurdodau lleol ddefnyddio’r premiwm i helpu i ailddefnyddio eiddo gwag neu segur
· Sut y dylai’r arian a gynhyrchir gan y premiwm gael ei ddefnyddio ac a ddylai awdurdodau lleol fod yn fwy tryloyw ynghylch sut mae’r arian a gynhyrchir wedi’i wario
· Oedd y premiwm uchaf o 100% yn briodol? Os nad oedd, beth fyddai’n briodol a theg?
· Beth oedd yr effeithiau cadarnhaol a negyddol ar lety hunanddarpar
· Y meini prawf a’r trothwyon presennol ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar ac felly yn agored i dalu trethi busnes yn hytrach na Threth y Cyngor
· Cymhwystra llety hunanddarpar ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach o 100% unwaith mae’r perchnogion yn gorfod talu Trethi Busnes
Mewn ymateb i’r ymgynghoriad mae’r swyddogion wedi adolygu’r papur ymgynghori ac wedi cynnwys yr ymateb i’r uchod yn yr adroddiad i’w gymeradwyo gan y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 16/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet
Dogfennau Atodol: