Manylion y penderfyniad
Housing Rent Income - Audit Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To acknowledge the Audit Wales Report and note the recommendations on the collection of additional data and performance reporting.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar gasgliadau adroddiad Archwilio Cymru ar incwm o rent tai. Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol a oedd yn adlewyrchu’r gwaith y mae’r Cyngor wedi’i wneud i gefnogi tenantiaid a sefydlogi ôl-ddyledion rhent yn ystod cyfnod o newid digynsail.
Rhoddodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael gefndir i’r adolygiad a gomisiynwyd gan y Cyngor oherwydd y risgiau strategol sy'n deillio o’r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent a newidiadau i Gredyd Cynhwysol. Roedd adroddiad gan Archwilio Cymru yn cydnabod y gwaith arwyddocaol a wnaed ar draws y gwasanaeth Tai i sefydlogi’r sefyllfa erbyn Mawrth 2020 ac i geisio gwella’r trefniadau presennol ymhellach drwy ddau fân argymhelliad yngl?n â chasglu data ychwanegol ac adrodd ar berfformiad. Roedd newidiadau a gyflwynwyd i reolaeth achosion cymhleth eisoes yn profi i fod yn effeithiol o ran targedu cymorth ac atal problemau rhag gwaethygu. Roedd rhagor o waith hefyd yn cael ei wneud i ddeall anghenion tenantiaid yn well ac i gryfhau gwybodaeth reoli ar lefelau dileu dyledion a dadansoddiad o ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Shotton, siaradodd swyddogion am y modd yr ymgysylltir â thenantiaid sydd mewn perygl o fynd i ôl-ddyled a chyfrifoldeb cyfunol timau yn yr adrannau Refeniw a Thai i weithio gyda thenantiaid i greu tenantiaethau cynaliadwy.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Lloyd, cafwyd eglurhad ar drefniadau contract gyda chwmnïau d?r.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Richard Lloyd.
PENDERFYNWYD:
Y dylid mabwysiadu’r cynigion am welliant a nodwyd yn yr adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 22/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/11/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: