Manylion y penderfyniad
Conduct of a Licensed Private Hire/Hackney Carriage (Joint) Driver
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) mewn cysylltiad â digwyddiad diweddar a gafodd ei adrodd i Adran Cludiant y Cyngor. Roedd yr adroddiad, oedd yn cynnwys datganiadau gan ddeiliad y drwydded a llygad-dyst i’r digwyddiad, yn tynnu sylw at yr adrannau perthnasol o ganllawiau roedd y Cyngor wedi’u mabwysiadu ar drin collfarnau, rhybuddion a chosbau eraill i alluogi’r panel i benderfynu a ddylai deiliad y drwydded barhau i gadw ei drwydded neu a ddylai gael ei wahardd neu ei ddiddymu. Cafodd y panel wybod bod yr Heddlu wrthi’n ymchwilio i’r digwyddiad.
Gan ymateb i gwestiynau, rhoddodd deiliad y drwydded rhywfaint o gefndir am yr amgylchiadau yngl?n â’r digwyddiad, gan egluro ei fod wedi cymryd sylwedd anghyfreithlon (canabis) i leddfu poen yn sgil anaf. Dywedodd ei fod wedi cymryd ychydig bach ar ôl gollwng cwsmer, roedd fod i yrru adref.Siaradodd ei gyn gyflogwr, oedd wedi dod gydag o i’r gwrandawiad, i gefnogi ei ymddygiad blaenorol, a dywedodd ar y dyddiad dan sylw, roedd wedi cysylltu â hi i ymddiheuro ac egluro’r sefyllfa a dywedodd hi wrtho i beidio â gyrru ac i aros wrth ei gar er mwyn iddi hi ei gasglu o. Fe eglurodd bod trefniadau wedi cael eu gwneud i yrrwr arall gymryd drosodd, ac ar ôl y digwyddiad, cafodd deiliad y drwydded ei wahardd nes bod y mater yn cael ei ddatrys.
I’w amddiffyn, dywedodd deiliad y drwydded bod ganddo gofnod clir gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd oedd yn dyddio ‘nôl flynyddoedd, ond cyfaddefodd bod cyfres o heriau yn ei fywyd personol wedi arwain iddo wneud rhywfaint o benderfyniadau gwael.
Wrth iddo gael ei holi, daeth hi’n amlwg nad oedd deiliad y drwydded wedi derbyn pecyn agenda’r cyfarfod oedd yn cynnwys adroddiad ac atodiadau’r swyddog trwyddedu, yn cynnwys datganiadau. Cytunodd y Cadeirydd gydag awgrym y Cyfreithiwr bod yr agenda’n cael ei e-bostio at ddeiliad y drwydded yn syth a bod y panel yn gohirio ar ôl cychwyn am egwyl o 15 munud er mwyn iddo gael amser i’w ddarllen. Cadarnhaodd deiliad y drwydded bod hyn yn dderbyniol, ac ar ôl 15 munud, fe ail gychwynnwyd y cyfarfod.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cyfreithiwr, dywedodd deiliad y drwydded ei fod yn ymwybodol o amodau safonol trwydded ar gyfer gyrwyr cerbydau hurio preifat, a’i fod wedi bod yn esgeulus yn peidio â rhoi gwybod i’r Cyngor am ei anaf, fel y nodir yn adran 9 yr amodau. Fe eglurodd ei resymau dros beidio â cheisio sylw meddygol ar gyfer ei anaf a bod rhywun roedd yn ei adnabod wedi rhoi sylwedd anghyfreithlon iddo ar ôl ei lawdriniaeth. Dywedodd nad oedd wedi gyrru yn ystod y cyfnod hwnnw gan nad oedd ganddo fynediad at gerbyd. Wrth gael ei holi, roedd yn derbyn ei fod yn gwybod bod canabis yn sylwedd anghyfreithlon, ac y gallai bod â’r sylwedd yn ei feddiant a gyrru o dan ddylanwad sylweddau anghyfreithlon fod yn drosedd. Roedd yn derbyn na ddylai fod wedi gwneud hynny, a dywedodd y gallai’r effaith fod yn debyg i yrru dan ddylanwad alcohol.
Gofynnwyd i ddeiliad y drwydded a’i gynrychiolydd a oeddynt yn dymuno gwneud sylw pellach.
Dywedodd deiliad y drwydded bod y digwyddiad yn groes i’w gymeriad ac na fyddai’n digwydd eto, gan ychwanegu ei fod yn gobeithio y byddai ei hanes blaenorol yn cael ei ystyried. Yn ystod y drafodaeth, daeth hi’n amlwg bod deiliad y drwydded wedi gyrru’r car pellter byr at ddiwedd y ffordd i aros iddo gael ei gasglu, ar ôl cymryd y sylwedd anghyfreithlon a chysylltu â’i gyflogwr. Dywedodd ei fod wedi mynd i banig a’i fod yn teimlo embaras yngl?n â chael ei weld. Disgrifiodd y digwyddiad fel cyfres o ‘benderfyniadau gwirion’ na fyddai’n cael eu hailadrodd.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u gofyn, gofynnodd i ddeiliad y drwydded (a’i gynrychiolydd) a’r Swyddog Trwyddedu i adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad.
5.1 Penderfynu ar y Cais
I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i’r sylwadau llafar ac ysgrifenedig deiliad y drwydded, ynghyd â Chanllaw’r Cyngor ar Drin Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill a gofnodir.Er eu bod yn nodi hanes blaenorol deiliad y drwydded, roedd y panel yn ystyried bod ei ymddygiad yn ddifrifol o ystyried natur y contract gyrru oedd yn cael ei wneud ar y pryd a’r perygl i ddiogelwch y cyhoedd. Roedd deiliad y drwydded yn ymwybodol o sgil-effeithiau posibl ei ymddygiad, ond er gwaethaf hynny, roedd wedi gyrru pellter byr wedyn ar ôl cymryd sylwedd roedd yn gwybod oedd yn anghyfreithlon.
Nid oedd y panel felly yn fodlon bod y gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded Gyrrwr Cerbydau Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd) a daethant i benderfyniad unfrydol y dylai gael ei ddiddymu, ar unwaith oherwydd y perygl i ddiogelwch y cyhoedd.
Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu a deiliad y drwydded (a’i gynrychiolydd) yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod.
5.2 Penderfyniad
Darllenodd y Cyfreithiwr y penderfyniad (isod) a chyn i’r cyfarfod ddod i ben, cadarnhaodd y Cadeirydd hawl deiliad y drwydded i apelio.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth yn ofalus, penderfynodd yr Is-bwyllgor i ddiddymu trwydded gyrrwr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbydau Hacni (ar y cyd) deiliad y drwydded. Mae’r Is-bwyllgor yn fodlon bod ymddygiad Deiliad y Drwydded (yn cynnwys ysmygu sylwedd yr oedd yn gwybod oedd yn anghyfreithlon a gyrru pellter byr wedyn) yn golygu nad ydyw bellach yn unigolyn cymwys ac addas o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar drwydded gyrru Cerbydau Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni. Mae’r Is-bwyllgor wedi penderfynu er diogelwch y cyhoedd y bydd y diddymiad yn digwydd ar unwaith oherwydd yn sgil ei ymddygiad, mae Deiliad y Drwydded wedi dangos llawer o ddiofalwch a phenderfyniadau gwael.
Awdur yr adroddiad: James Lowe
Dyddiad cyhoeddi: 16/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2021 - Is-bwyllgor Trwyddedu