Manylion y penderfyniad
Core Funding Review
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To present the outcomes of the Core Funding Review.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi, yn y gorffennol, darparu cyllid i rai sefydliadau trydydd sector drwy Gytundebau Cyllid Craidd.
Mae’ rhan fwyaf o’r sefydliadau sy’n derbyn cyllid craidd wedi bod yn gwneud hynny ers sawl blwyddyn ac o’r herwydd mae’n bryd adolygu’r trefniadau cyllido a’u haddasrwydd i gynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau a’i amcanion. Dechreuodd yr adolygiad o gyllid craidd yn 2019 ac mae bellach wedi’i gwblhau. Mae canlyniadau’r adolygiad wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi ailenwi’r gronfa yn “Cyllid Strategol” i adlewyrchu defnydd newidiol y gronfa i gomisiynu gwasanaethau;
(b) Cymeradwyo'r dyraniad cyllid a nodir yn Atodiad 3 a rhoi’r gorau i gyllido un sefydliad;
(c) Bod y tanwariant presennol a’r tanwariant i’r dyfodol yn cael ei gadw i ddarparu hyblygrwydd i gefnogi’r trydydd sector, yn cynnwys gwneud taliadau untro yn ôl yr angen;
(d) Cefnogi adolygiad manwl pellach o’r gronfa hon a’r Gist Gymunedol, i'w gynnal o fewn tair blynedd i sicrhau bod y ddwy ffrwd ariannu yn dal yn ymarferol wrth fodloni anghenion y Cyngor.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 16/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/11/2021