Manylion y penderfyniad
Treasury Management Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To present to Members the draft Annual
Treasury Management Report for 2020/21
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ac eglurodd fod angen i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio adolygu Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys dan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor. Cafodd ei ystyried yn eu cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2021 ac yn y Cabinet ar 21 Medi 2021.
Roedd crynodeb o’r prif bwyntiau yngl?n â’r Adroddiad Blynyddol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad eglurhaol.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a’i eilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r holl swyddogion a oedd ynghlwm â pharatoi’r adroddiad, ac am ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet. Eglurodd mai’r dylanwad mawr ar economi’r DU yn 2020/21 oedd y pandemig Covid-19. Fe ostyngodd Banc Lloegr y Gyfradd Banc i 0.1% a darparodd Llywodraeth y DU amrywiaeth o fesurau ysgogi ariannol i gefnogi’r economi drwy’r cyfnod digyffelyb hwnnw. Roedd adran 2 yn yr adroddiad yn darparu adolygiad economaidd a chyfraddau llog llawn ar gyfer 2020/21.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor cyfrifol a oedd yn craffu ar y Strategaeth a’r Polisïau Rheoli’r Trysorlys, cadarnhaodd y Cynghorydd Dolphin ei fod wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 28 Gorffennaf lle cafodd ei gefnogi.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd gan North East Wales (NEW) Homes yr un mynediad at y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, felly fe wnaeth y Cyngor fenthyca ar eu rhan gan gynnwys cyfradd fechan ychwanegol a oedd yn darparu ffrwd incwm ar gyfer yr awdurdod. Mewn ymateb i gwestiwn arall am gyfraddau llog, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai’r adroddiadau monitro chwarterol yn darparu gwybodaeth fanwl lawn. Ynghlwm a gweithgarwch buddsoddi, gofynnodd y Cynghorydd Peers beth oedd yr elw ar fuddsoddiadau. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r nod bob amser oedd gwneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi a bod y cyfleoedd gorau’n cael eu hystyried ar y pryd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21.
Awdur yr adroddiad: Louise Elford
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2021 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: