Manylion y penderfyniad
Progress of Empty Homes Scheme in Flintshire
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an overview of the work undertaken by the Empty Homes Service.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned adroddiad i ddarparu trosolwg o’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaethau Cartrefi Gwag. Rhoddodd gyflwyniad ar y cyd â’r Swyddog Datblygu a oedd yn cwmpasu’r canlynol:
- cyd-destun
- cyflawniadau ers 2019
- astudiaethau achos
Dywedodd y Cadeirydd fod nifer y cartrefi gwag fel pe bai’n uchel, ond ychwanegodd fod safon y gwaith ailwampio’n ardderchog. Ychwanegodd yr Uwch Syrfëwr fod y ffigurau ar gyfer nifer yr eiddo gwag wedi dod o ffigurau Treth y Cyngor. Dywedodd hefyd eu bod wedi defnyddio ymchwilydd preifat ardderchog i nodi perchnogion cartrefi, a bod landlordiaid preifat yn aml yn rhan o’r datrysiad.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Wisinger am eiddo gwag yn ardal Glannau Dyfrdwy, dywedodd yr Uwch Syrfëwr fod gwaith yn mynd rhagddo ar nodi datrysiad i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio eto.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Adele Davies-Cooke, dywedodd yr Uwch Syrfëwr fod pob eiddo’n cael ei werthu mewn arwerthiant i sicrhau’r pris gorau posibl ar unrhyw adeg.
Gofynnodd y Cynghorydd Ron Davies a oedd sylw’n cael ei roi i adeiladau gwag ynghyd â chartrefi gwag. Dywedodd yr Uwch Syrfëwr mai dim ond eiddo preswyl gwag oedd yn cael eu targedu oherwydd nad oedd digon o adnoddau yn y tîm i fynd i’r afael ag eiddo masnachol.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Veronica Gay a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Sian Jones (Environment)
Dyddiad cyhoeddi: 30/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Dogfennau Atodol: