Manylion y penderfyniad
Work of the Coroner’s Office
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive a presentation from John Gittins on the work of the Coroner’s Office.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad am waith Crwner Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) a'r gwaith a wnaed ar ran Cynghorau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint.
Roedd Mr. John Gittins, Uwch GrwnerUwch Grwner dros Ogledd Cymru - Dwyrain a’r Canol, yn bresennol i roi cyflwyniad oedd yn cynnwys:
· Gorchymyn Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) (Rhanbarth Crwner)
· Swyddog Barnwrol Annibynnol
· Ystadegau
· Cefnogaeth
· Y Gyfraith
· Y ‘Groesffordd’
· Ymchwiliad
· Y Cwest
· Pwerau’r Crwner – Atodlen 5 / Goblygiadau
· Atal marwolaethau yn y dyfodol
· Pethau cadarnhaol...ac amseru damweiniol
· Swyddi a chyfrifoldebau eraill
· “Lle mae’n gorffen?”
Tynnodd yr adroddiad sylw at yr ystod eang o bwerau deddfwriaethol a chyfrifoldebau sydd gan y Crwner a oedd yn swydd hanesyddol sy’n cael ei hariannu gan awdurdod lleol ar sail statudol. Rhannwyd gwybodaeth hefyd am bwerau’r Crwner i gyhoeddi adroddiadau o dan Rheoliad 28 Rheoliadau (Ymchwiliadau) Crwneriaid 2013 oedd yn gofyn i sefydliadau, yn cynnwys awdurdodau lleol i weithredu er mwyn lleihau’r risg o farwolaethau yn y dyfodol. Cyfeiriwyd hefyd at waith y Prif Weithredwr yn cefnogi swyddfa’r Crwner yn ystod sefyllfa o argyfwng.
Diolchodd y Prif Weithredwr i Mr. Gittins am ei gyflwyniad ac am y modd y mae’n ymgymryd â’i swydd.
Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, fe eglurodd Mr. Gittins sgôp ei gyfrifoldebau cyfreithiol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r argymhelliad bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau blynyddol gan y Crwner yn y dyfodol yn gyfle i ystyried perfformiad a’r pwysau sydd yn y gwasanaeth.
Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Mr.Gittins am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth a gafodd ei groesawu.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn diolch i’r Crwner am ei waith ac yn cael rhagor o adroddiadau yn flynyddol.
Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew
Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 14/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: