Manylion y penderfyniad
People and Organisational Development Strategy 2022-2025
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To share the strategic priorities for a new People and Organisational Development Strategy 2022-2025.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygiad Sefydliadol, adroddiad ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol newydd ar gyfer 2022-25.
Er bod yr ymateb i’r pandemig wedi tarfu ar adolygu’r Strategaeth Pobl presennol, roedd nifer o ganlyniadau cadarnhaol yn deillio o’r newidiadau mewn arferion gweithio a ellir eu datblygu ymhellach. Byddai’r Strategaeth newydd yn amlinellu uchelgeisiau cynyddol ar gyfer y gweithlu a’r sefydliad, gan adlewyrchu ar ddigwyddiadau dros y 18 mis diwethaf ac adeiladu ar feysydd o arfer da. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r ffactorau allanol allweddol a chanlyniadau sy’n debygol o gael eu darparu dan bob thema a fyddai’n aros yn hyblyg i addasu i unrhyw newidiadau ac ymateb i risgiau fel recriwtio a chadw staff.
Canmolodd y Cynghorydd Arnold Woolley yr adroddiad ond roedd yn bryderus am y diffyg gwybodaeth ar werthusiadau blynyddol. Mewn ymateb, rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol sicrwydd bod hyn wedi’i gynnwys drwy gyflwyno rhaglen adolygu perfformiad newydd ar sail gwerthoedd.
Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at bwysigrwydd y Strategaeth o ran sicrhau bod gweithwyr ar bob lefel yn deall eu rolau a’u cyfranogiad yn glir o fewn y sefydliad ac y byddai fframio uchelgeisiau fel cyflogwr delfrydol yn helpu i greu diwylliant gweithlu cadarnhaol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r blaenoriaethau strategol fel sylfaen ar gyfer datblygu iteriad nesaf y Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol 2022-2025 cyn iddo gael ei roi i weithwyr ac Undebau Llafur ar gyfer ymgynghoriad ac adborth, cyn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Sharon Carney
Dyddiad cyhoeddi: 22/02/2022
Dyddiad y penderfyniad: 13/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: