Manylion y penderfyniad
Ending of the Universal Credit Uplift
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the predicted effect on Flintshire residents when the Universal Credit uplift ends.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac esboniodd fod Llywodraeth y DU, ar 20 Mawrth 2020, wedi cyhoeddi cynnydd cyfwerth â £20 yr wythnos i elfen sylfaenol lwfans safonol Credyd Cynhwysol gwerth hyd at £1,040 am flwyddyn i’r rhai a oedd yn wynebu'r ymyrraeth ariannol fwyaf o ganlyniad i bandemig COVID-19. Roedd yn berthnasol i hawlwyr newydd a hawlwyr cyfredol y Credyd Cynhwysol.
Daeth y cynnydd i ben yn swyddogol ar 6 Hydref 2021 a chafwyd llawer o wybodaeth berthnasol yn yr adroddiad mewn perthynas â thrigolion Sir y Fflint y byddai’r newid yn effeithio arnyn nhw, ac amlygodd y cymorth mae’r Cyngor yn ei ddarparu.
Esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y gallai unrhyw un sydd mewn trafferthion ariannol gysylltu â Thîm Lles y Cyngor a fyddai’n helpu i’w cefnogi a’u cyfeirio at asiantaethau eraill a all gynnig cymorth.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Rhybudd o Gynnig ar raglen y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yngl?n â chael gwared ar y cynnydd i’r Credyd Cynhwysol wedi cael ei dynnu oddi ar y rhaglen yn dilyn y digwyddiad erchyll dros y penwythnos a marwolaeth drist Syr David Amess.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a’r effeithiau negyddol ar drigolion cymunedau Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 19/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 28/10/2021
Dogfennau Atodol: