Manylion y penderfyniad

Review of Public Convenience Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update Scrutiny on progress against the Local Toilet Strategy Action Plan in line with the statutory requirements, and to set out the approach to a further review in 2022-23.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â'r gofynion statudol, a nododd yr ymagwedd at adolygiad pellach yn 2022-23.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd yr adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir a chynghorodd fod Strategaeth Toiledau Lleol Sir y Fflint wedi ei chymeradwyo a’i chyhoeddi ym mis Mai 2019 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a bod copi wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd fod canllawiau Cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu'r polisi bob dwy flynedd o'r adeg y cyhoeddodd neu yr adolygodd yr awdurdod lleol y Strategaeth ddiwethaf ac o fewn blwyddyn i bob etholiad llywodraeth leol gyffredin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas a fyddai toiledau cymunedol sy'n darparu ar gyfer twristiaid yn parhau i gael grant blynyddol gan y Cyngor. Cadarnhaodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y byddai'r grant yn parhau. 

 

Cododd y Cynghorydd Geoff Collett bryderon ynghylch diffyg darpariaeth cyfleustrau cyhoeddus yn yr Wyddgrug, a’r angen i uwchraddio’r ddarpariaeth mewn adeiladau cyhoeddus gan nodi’r llyfrgell gyhoeddus fel enghraifft. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod darpariaeth amgen neu ddatblygiad y cyfleusterau cyhoeddus yng Ngorsaf Fysiau'r Wyddgrug wedi cael eu hystyried ond bod costau'n afresymol a bod y toiledau'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nid oedd trafodaethau â Chyngor Tref yr Wyddgrug wedi symud ymlaen i ddarparu datrysiad. Dywedodd fod toiledau Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug yn rhan o'r Strategaeth Cludiant Integredig a bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug ynghylch parcio coetsys a goleuo. O ran toiledau mewn adeiladau cyhoeddus, dywedodd y byddai'r Cyngor yn gweithio gyda darparwyr amgen yn amodol ar ddarparu cyllid i ddatblygu'r cyfleusterau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryder nad oedd unrhyw arwyddion i nodi bod cyfleusterau toiledau cyhoeddus ar gael yn adeilad Llyfrgell Bwcle. Pwysleisiodd fod arwyddion clir yn hanfodol i'r cyhoedd. Cydnabu'r Prif Swyddog fod angen gwaith pellach ac arwyddion i godi ymwybyddiaeth o doiledau cyhoeddus mewn ardaloedd lleol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Paul Shotton â'r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Hutchinson bod angen gwell arwyddion i hysbysu preswylwyr o leoliad toiledau cyhoeddus mewn ardaloedd lleol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Chris Bithell sylw at Ran 8, Deddf Iechyd y Cyhoedd 2017, a chynghorodd nad oedd unrhyw un yn gyfrifol am ddarparu toiledau cyhoeddus ac oherwydd toriadau nid oedd cyllid digonol ar gael i ddarparu'r gwasanaeth. Dywedodd fod yr Wyddgrug nid yn unig yn darparu ar gyfer gofynion ei thrigolion ei hun ond hefyd yn gwasanaethu dalgylch mawr ar gyfer siopa a thwristiaeth a dywedodd nad oedd y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn ddigonol i ateb y galw yn enwedig yn yr Haf. Mynegodd y Cynghorydd Bithell bryder nad oedd arwyddion i'r ddarpariaeth gyhoeddus bresennol ar gael yn yr Wyddgrug ac y dylent fod wedi'u gosod cyn dymchwel y toiledau cyhoeddus yn New Street a Stryd Wrecsam. Dywedodd nad oedd y trefniadau cyfredol yn yr Wyddgrug ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn gynaliadwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Collet fod angen adolygu cyfleusterau yn yr Wyddgrug ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn drylwyr gan ystyried rhoi mynediad i bobl oedrannus a phobl â phroblemau symudedd. Cytunodd y Prif Swyddog i gwrdd â'r Cynghorwyr Chris Bithell a Geoff Collett i drafod y materion a godwyd a dywedodd y byddai adborth gan y Pwyllgor yn cael ei ymgorffori yn yr adolygiad o'r Strategaeth Toiledau Lleol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Glyn Banks sicrwydd y byddai arwyddion dwyieithog yn cael eu darparu ar gyfer toiledau cyhoeddus ledled y Sir yn dilyn adolygiad o'r Strategaeth ac awgrymodd y dylid gosod eitem arall ar gyfleusterau cyhoeddus ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas y farn, wrth i dwristiaeth gael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn y Sir, y dylai LlC sicrhau bod cyllid ar gael hefyd ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn ddigonol mewn ardaloedd cyrchfan poblogaidd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Derek Butler i Ganol Trefi gael eu cynnwys yn yr adolygiad o'r Strategaeth Toiledau Lleol gyda'r nod o nodi unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Dennis Hutchinson ac Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r adolygiad ac yn nodi'r cynnydd hyd yma yn erbyn cynllun gweithredu’r strategaeth toiledau lleol.

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2022

Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: