Manylion y penderfyniad
School Reserve Balances Year Ending 31st March 2021
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide the Committee with details of the closing balances held by Flintshire schools at the end of the financial year.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad blynyddol yngl?n â chronfeydd wrth gefn a gedwir gan ysgolion Sir y Fflint a’r risgiau a’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion sydd mewn diffyg ariannol. Roedd yr adroddiad hefyd wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.
O’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, bu cynnydd yn lefelau’r cronfeydd wrth gefn a gedwir ar draws pob sector ar 31 Mawrth 2021, yn rhannol oherwydd nifer y grantiau ychwanegol a ddyfarnwyd ar gyfer problemau a achoswyd yn sgil y sefyllfa argyfwng. Roedd grantiau a ddyfarnwyd yn hwyr wedi chwyddo balansau ar ddiwedd y flwyddyn, ac wedi cyflwyno heriau i’r rhai sy’n rheoli cyllidebau ysgolion. Roedd gostyngiad wedi bod yn nifer yr ysgolion cynradd ac uwchradd mewn diffyg ariannol. Roedd y prosesau cadarn ar gyfer monitro balansau ysgolion drwy’r Protocol ar gyfer Ysgolion mewn Anawsterau Ariannol yn parhau i ddarparu her a thargedu cefnogaeth lle yr oedd ei hangen. Roedd ymgysylltu rheolaidd yn digwydd â Phenaethiaid yngl?n â balansau gwarged, a oedd yn fater a godwyd ar lefel genedlaethol. Wrth gydnabod yr heriau sylweddol yn ystod y pandemig parhaus, nid oedd disgwyl i ysgolion lenwi’r ffurflen flynyddol yngl?n â’u cynlluniau i ddefnyddio eu balansau a oedd yn fwy na’r terfynau a nodwyd ar gyfer eleni.
Wrth nodi buddsoddiad ychwanegol y Cyngor mewn cyllidebau dirprwyedig ysgolion i reoli’r gostyngiad yn y diffyg mewn cyllideb ysgolion, gofynnodd Sally Ellis yngl?n â’r lefel o gyllid ychwanegol a oedd yn ofynnol i newid y fformiwla ariannu ar gyfer ysgolion.
Cafwyd eglurhad gan y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid Strategol bod £1 miliwn ychwanegol wedi’i glustnodi i’r sector uwchradd ar gyfer 2021/22 a oedd yn arian cylchol, fel yr oedd adnoddau yn caniatáu. Yng Ngham 2 o adroddiadau’r gyllideb ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, nodwyd bod y gofyniad am ragor o gyllid ysgolion yn bwysau o ran costau, a'i fod yn ddibynnol ar sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor yn dilyn hysbysiad o’r Setliad Dros Dro ym mis Rhagfyr 2021. Byddai cynlluniau i fynd i’r afael â newidiadau i’r fformiwla ariannu ysgolion yn cymryd peth amser i’w datrys.
Fel Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at ffactorau eraill a oedd yn cyfrannu at sefyllfa diffyg ariannol ysgolion.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod strategaeth y Cyngor i gynnwys y cynnydd ychwanegol i ysgolion, yn ymateb i argymhelliad arolwg Estyn i reoli’r gostyngiad mewn diffygion yng nghyllideb ysgolion mewn modd effeithiol, ac roedd yn dibynnu ar y Setliad uwch gan Lywodraeth Cymru.
Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd i’r Pwyllgor o ran y strategaeth gyffredinol ar gyfer ysgolion sy’n perfformio’n dda ar draws Sir y Fflint ac i annog rhieni i ddewis ysgolion lleol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Martin White a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi lefelau cronfeydd wrth gefn ysgolion fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2021.
Awdur yr adroddiad: Liz Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 25/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: