Manylion y penderfyniad

Conduct of a Licensed Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) mewn perthynas ag euogfarnau diweddar. Tynnodd sylw at yr adrannau perthnasol o ganllawiau mabwysiedig y Cyngor ar ymdriniaeth ag euogfarnau, rhybuddion a chosbau eraill wedi’u cofnodi fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod i’r panel bod yr ymgeisydd wedi derbyn rhybudd am drosedd ychydig o flynyddoedd ynghynt (2011), a gafodd, yn unol â’r canllawiau, ei gymryd i ystyriaeth pan gyflwynodd yr ymgeisydd gais am drwydded ac ni chafodd effaith ar gyflwyno’r drwydded bryd hynny.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau gan y panel, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth am yr euogfarnau diweddar a chefndir y rhybudd blaenorol a ddisgrifiodd fel achos unigol. Fel y nodir yn ei sylwadau ysgrifenedig, dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn edifarhau’r euogfarnau diweddar ac eglurodd ei fod yn rhannol o ganlyniad i gyd-ddigwyddiad anffodus honedig. Dywedodd ei fod yn deall difrifoldeb y troseddau ac eglurodd ei amgylchiadau personol.

 

Pan ofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd a oedd o’n dymuno gwneud unrhyw sylwadau eraill, dywedodd fod ei ymddygiad a arweiniodd at yr euogfarn diweddar allan o gymeriad iddo.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Swyddog Trwyddedu adael y cyfarfod i alluogi’r panel i ddod i benderfyniad. 

 

5.1       Penderfynu ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i’r holl sylwadau llafar ac ysgrifenedig, ynghyd â Chanllaw’r Cyngor ar Ymdriniaeth ag Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill a gofnodir.Nid oedd y panel yn fodlon – ar ôl pwyso a mesur – bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd) a phenderfynwyd y dylid ei dirymu.

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

5.2       Penderfyniad

 

Cadarnhaodd y Cyfreithiwr y penderfyniad (isod) a chyn cau’r cyfarfod, cadarnhaodd y Cadeirydd hawl yr ymgeisydd i apelio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad hwn, y cofnod o euogfarnau, y sylwadau a wnaed gan ddeiliad y drwydded, gan gynnwys ei lythyr dyddiedig 19 Awst 2021, ac ar ôl ystyried y Canllawiau ar Ymdriniaeth ag Euogfarnau, penderfynodd yr Is-bwyllgor, yn ôl pwysau tebygolrwydd, nad yw’r unigolyn yn gymwys ac yn addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio/preifat Hacni (ar y cyd) ac y dylid dirymu ei drwydded. Nid yw'r Is-bwyllgor wedi cymryd y Rhybudd yn 2011 i ystyriaeth.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 12/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 01/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •