Manylion y penderfyniad
Pooling Investment in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol o ran cyfuno asedau yng Nghymru:
- Mae Bfinance wedi’u penodi’n ddiweddar yn dilyn proses gaffael gan yr is-gr?p Marchnadoedd Preifat, a rhoddwyd tasg iddynt o gaffael dosbarthwr ar gyfer WPP.Fodd bynnag, bydd hyn yn cymryd cryn amser.
- Y canolbwynt oedd yr argymhelliad o ran Cytundeb Rhwng Awdurdodau WPP â Chyngor Sir y Fflint.Roedd yr adendwm ar ei gyfer wedi’i ddosbarthu cyn y cyfarfod gyda’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau presennol ac mae’r adendwm ynghlwm wrth atodiad 1. Roedd y gymeradwyaeth o ran cynrychiolydd aelodau newydd y cynllun ar y JGC a gyda phenodi dosbarthwr i’r is-gr?p Marchnadoedd Preifat.
Nododd Mr Everett y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf Cyngor Sir y Fflint, pe bai’r Pwyllgor yn cytuno â hyn, gan gynnwys y newidiadau i Reolau’r Weithdrefn Ariannol ar gyfer y polisi gordaliadau a thandaliadau.
Nododd Mr Hibbert ei bleidlais yn erbyn yr ail a’r trydydd argymhelliad o ran elfennau cynrychiolydd aelodau’r cynllun, oherwydd roedd o’r farn fod y broses bresennol ar gyfer penodi cynrychiolydd yn wahaniaethol oherwydd y disgwyliad y byddai’r cynrychiolydd yn destun:
1. Proses ddethol gan gynnwys swydd-ddisgrifiad, manylion am yr unigolyn a chyfweliad.
2. Cyfyngiad amser ar aelodaeth.
3. Peidio bod â hawl i bleidleisio.
Caiff y cyfyngiadau hyn eu defnyddio ar gyfer Cynrychiolwyr Aelodau’r Cynllun ar y JGC sy’n rhan o undeb llafur.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y pwyllgor yn ystyried a nodi rhaglen y JGC a chytuno ar unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar gyfer WPP.
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell Adendwm i Gytundeb Rhwng Awdurdodau WPP â Chyngor Sir y Fflint i’w gymeradwyo, a bod y diwygiadau’n cael eu cynnwys yn briodol yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
(c) Bod y Pwyllgor yn argymell wrth Gyngor Sir y Fflint fod y Protocol ar gyfer Bwrdd Pensiynau Clwyd yn cael ei ddiwygio i ganiatáu i’r Bwrdd enwebu Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun i’r JGC.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 24/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 01/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Dogfennau Atodol: