Manylion y penderfyniad

Investment and Funding Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Dywedodd Mr Fielder fod y Gronfa ar y trywydd iawn ar hyn o bryd ym mhob maes yn y cynllun busnes.Rhoddodd sylwadau am y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Gofynnodd WPP yn ffurfiol am gael sefydlu is-gronfa ecwiti byd-eang gynaliadwy weithredol, sy’n parhau i ddatblygu.

-       Gwnaed buddsoddiad newydd gyda Bridges Property Fund V, o fewn buddsoddiadau effaith a lleol.

-       Roedd y Gronfa wedi mynychu sesiwn gyda Creu Cymunedau ar y Cyd (TCC), lle trafodwyd sut mae’r Gronfa’n datblygu gyda Buddsoddiad Cyfrifol (RI), yn benodol, ymwrthod yn gyflym â charbon.

-       O ran sefyllfa llif arian y Gronfa, roedd y Gronfa wedi lleihau’r risg o lif arian annigonol trwy well monitro, fel a amlinellir yn y gofrestr risg.Yn ogystal, mae’r Gronfa mewn sefyllfa gadarnhaol o ran llif arian ar hyn o bryd, o ystyried bod y Gronfa yn cael dosbarthiadau gan y buddsoddiadau marchnad preifat.

-       Roedd WPP i fod i fynd i dendr ar gyfer dosbarthwr Marchnadoedd Preifat, ac mae Aon a Mercer wedi cofrestru eu diddordeb.

-       Oherwydd bod WPP yn cymryd hirach i weithredu marchnadoedd preifat, ni fyddent mewn sefyllfa i weithredu’r isadeiledd a’r portffolios dyledion preifat am rai blynyddoedd eto.Felly, roedd cylch gwaith Mercer wedi’i ymestyn i gefnogi’r Gronfa i wneud unrhyw ddyraniadau i’r dosbarthiadau asedau hyn, ac felly bydd cynnydd o ran y costau ymgynghoriaeth, er bod y costau hyn wedi’u gosod yn erbyn y gostyngiad o ran costau rheoli i Link a Russell.

-       Mae’r Gronfa yn datblygu’r uchelgais sero net ac maen nhw’n disgwyl gwelliannau a diweddariadau maes o law.

Diolchodd Mr Everett i’r tîm a’r Cadeirydd.Nododd bwysigrwydd y ffaith fod aelodau’r Pwyllgor yn helpu’r Gronfa wrth gyfathrebu eu sefyllfa strategol ar Fuddsoddiad Cyfrifol gyda chanolbwynt ar ymgysylltiad i ddechrau, ac yn enwedig y byddai gweithredu uchelgais net sero’r Gronfa yn cymryd amser. Mynegodd Mr Hibbert er bryderon a’i anhawster wrth gefnogi pwynt Mr Everett yn llwyr, a phwysleisiodd bwysigrwydd ymwrthod â charbon a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy cyn gynted ag sy’n bosibl. Eglurodd Mrs McWilliam mai strategaeth y Gronfa oedd canolbwyntio ar ymgysylltu a bod ymwrthod yn opsiwn pan nad oedd ymgysylltu’n llwyddiannus. Ychwanegodd Mrs Fielder fod ymwrthod yn esblygiad i’r Gronfa a’u bod wedi buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ers amser hir.Gall y Gronfa hefyd ddisgwyl gweld rhai gwelliannau o’r buddsoddiad arfaethedig gyda WPP mewn ecwiti gweithredol cynaliadwy.

Cytunodd Mr Buckland â Mrs Fielder ac roedd yn gwerthfawrogi pryderon Mr Hibbert.Dywedodd y gallai’r Gronfa ymwrthod ag asedau mewn nifer o feysydd yn y pen draw, fodd bynnag, byddai hyn oherwydd dadansoddiad ac asesiad priodol o’r sefyllfa bresennol.Roedd Mr Hibbert yn falch am yr eglurhad hwn, a chadarnhaodd nad oedd o blaid “ymwrthod plaen” ond roedd yn cefnogi’r cynllun a oedd yn dangos mai ymwrthod fyddai’r opsiwn terfynol o bosibl.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 24/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 01/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: