Manylion y penderfyniad
Flintshire Financial Sustainability Assessment Final Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To share the financial sustainability assessment report from Audit Wales.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol ar draws holl Gynghorau Cymru wedi’i gynnal gan Archwilio Cymru ac roedd adroddiad ar gyfer Sir y Fflint ynghlwm â’r adroddiad.
Roedd y crynodeb a’r canfyddiadau yn yr adroddiad yn amlinellu adlewyrchiad teg o sefyllfa ariannol y Cyngor ac nid oedd yna unrhyw faterion newydd i adrodd arnynt. Felly, nid oedd ymateb ffurfiol wedi’i baratoi fel y byddai’n arferol.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ble derbyniodd ymateb da. Roedd yr adroddiad yn galonogol ac yn canmol.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y tablau o fewn yr adroddiad yn dangos bod y Cyngor yn gwario o fewn y gyllideb. Yn ogystal, nid oedd unrhyw gynigion gan Archwilio Cymru yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod Sir y Fflint yn 21 allan o 23 ar y tabl wrth gefn oedd yn dangos y ddibyniaeth ar gyllid Llywodraeth Cymru.
Roedd Aelodau yn croesawu’r adroddiad ac nid oedd angen cynllun gweithredu gan na wnaed unrhyw gynigion. Roedd yr adroddiad yn grynodeb da o’r sefyllfa yn Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad gan Archwilio Cymru yn cael ei nodi.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/09/2021
Dogfennau Atodol: