Manylion y penderfyniad
Budget 2022/23 - Stage 2
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
That the Committee reviews and comments on the Education, Youth and Culture cost pressures and overall budget strategy, and advises on any areas of cost efficiency it would like to see explored further.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.
Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn rhoi diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y pwysau costau a nodwyd wedi eu cyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod i gyd yn cynnal adolygiad trwyadl. Roedd manylion y pwysau costau i Addysg ac Ieuenctid yn gynwysedig yn yr adroddiad.
Roedd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi darparu cyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-
· Pwrpas a chefndir
· Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau
ØPwysau Addysg ac Ieuenctid
ØPwysau Cyllideb Ysgolion
· Crynodeb holl Bwysau Costau
· Pwysau Cyllideb y Tu Allan i’r Sir
· Datrysiadau Strategol
· Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd
· Amserlenni Cyllideb
Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau am gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod yr heriau i brynu prydau ysgol a byrbrydau wedi’i amlygu gan fyfyrwyr a gobeithio os byddai yna hyblygrwydd o fewn y gyllideb i godi hyn, byddai’n cael ei groesawu’n fawr. Y sefyllfa mewn ysgolion cynradd oedd bod prydau yn brydau wedi eu paratoi o nifer o ddewisiadau. Ar y lefel uwchradd roedd yn fwy o arddull caffeteria gyda mwy o ddewisiadau ar gael ar gyfer pobl ifanc. Roedd y lwfans prydau ysgol am ddim presennol i bob sector yn £2.35 y dydd. Roedd hyn yn ddigon mewn ysgol uwchradd i brynu brechdan, darn o ffrwyth a photel o dd?r neu gynnig pryd ond roedd adborth drwy’r Fforwm Gwasanaethau Plant yn nodi nad oedd hyn yn ddigon e.e. nid yw’n caniatáu ar gyfer brecwast neu fyrbryd canol bore. Hefyd, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod NEWydd yn fedrus iawn yn darparu bwyd ardderchog a oedd yn bodloni gofynion maethol safonol. Byddai cynnydd i ddisgyblion oed uwchradd yn fuddiol.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod cynnydd mewn lwfans prydau ysgol am ddim wedi’i gynnwys o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, i gynyddu’r lwfans yn ddarostyngedig i fforddiadwyedd. Roedd yn croesawu’r pwysau costau yn Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen, a oedd yn dyheu i wella’r amgylchedd dysgu a darparu mwy o gymhwyster. Yngl?n â’r pwysau costau ar gyfer swyddi newydd, roedd hyn wedi’i ddosbarthu ar gyfer pob portffolio i ddarparu gwybodaeth ar eu hanghenion hanfodol ble cynhaliwyd proses gadarn i flaenoriaethu’r sawl oedd angen ystyriaeth wirioneddol. Roedd y pandemig wedi dwyshau rhai o’r bylchau ond byddai’r rhain yn cael eu hadolygu os na fyddai cyllideb gytbwys yn cael ei chyflawni’r flwyddyn nesaf.
Roedd y Cynghorydd Dave Mackie yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog o amgylch y cynnydd mewn prydau ysgol am ddim, a godwyd fel pryder gan bobl ifanc mewn cyfarfod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant. Roedd yn gwneud sylw ar bwysau costau a dywedodd y cytunwyd ar rai ohonynt yn ystod gosod cyllideb 2021/22 ac awgrymodd ble roedd pwysau costau wedi’i gymeradwyo mewn blynyddoedd blaenorol, dylid nodi hyn yn yr adroddiadau. Roedd y Prif Weithredwr yn awgrymu bod adroddiadau’r dyfodol yn cael eu haddasu i gynnwys penderfyniadau a gytunwyd yn flaenorol a phwysau costau newydd ar gyfer cyllideb 2022/23.
Roedd y Cynghorydd Janet Axworthy wedi gwneud sylw ar y pwysau costau ar gyfer y Cydwasanaeth Archif a dywedodd ei bod yn siomedig bod y cais loteri diweddar wedi bod yn aflwyddiannus. Roedd yn gobeithio y byddai ceisiadau yn y dyfodol yn llwyddiannus gan fod hon yn fenter mor bwysig o fewn y Cyngor. Gofynnodd y Cadeirydd a fu unrhyw adborth ar y cais loteri. Cytunodd y Prif Swyddog fod y cais aflwyddiannus yn siomedig ond rhoddwyd sicrwydd bod y cais yn un ardderchog ac na fyddai unrhyw beth arall wedi gallu cael ei wneud i wella’r cais ond yn anffodus nid oedd yna ddigon o arian cenedlaethol ar gael.
Dywedodd y Cadeirydd am drafodaeth a gynhaliwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru yn ymwneud â setliad ar dâl athrawon. Dywedodd fod y penderfyniad i 1% o’r cynnydd gael ei ariannu’n lleol yn cynnwys goblygiadau ariannol i’r Cyngor ac roedd ysgolion yn gofyn am eglurhad ar sut gellir ariannu hyn. Hefyd, gofynnodd a oedd LlC wedi nodi a fyddent yn ariannu dyfarniadau tâl llyfr gwyrdd yn llawn.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai 1% o’r cynnydd yn cael ei ariannu rhwng ysgolion a’r Cyngor. Wrth symud ymlaen, roedd yn rhaid gwneud gwaith ar sut fyddai dyfarniadau tâl yn y dyfodol yn cael eu hariannu ond ar gyfer gweddill 2021/22 byddai’n cael ei ariannu drwy’r arian wrth gefn gyda swm rheolaidd llawn yn mynd i‘r gyllideb sylfaen. Ailgadarnhaodd mai sefyllfa’r Cyngor oedd i ddisgwyl i Lywodraethau ariannu dyfarniadau tâl yn llawn yn arbennig LlC gan ei fod yn fater datganoledig. Hefyd cadarnhaodd nad oedd yna gyllid ychwanegol ar gyfer y dyfarniadau tâl llyfr gwyrdd yn y flwyddyn ariannol bresennol gan fod hyn yn parhau i gael ei drafod a heb ei gwblhau.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor am ddatganiadau blaenorol gan Lywodraeth Cymru y byddai’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn niwtral o ran cost ac mai nid dyma’r achos. Mewn cyfarfod diweddar gyda CLlLC a LlC mynegwyd pryder eto o amgylch darparu cyllid angenrheidiol i ddiwallu gofynion y Bil. Hefyd rhoddodd wybodaeth am y trafodaethau manwl rhwng CLlLC a LlC o amgylch dyfarniadau tâl ac roedd LlC yn disgwyl i Awdurdodau Lleol baratoi cyfrifiadau cyn cytuno ar y dyfarniadau tâl. Dywedodd ei bod yn anodd rhagweld pa ffigwr oedd y panel adolygu annibynnol yn debyg o’i gyflwyno a phan fyddai’r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi.
Roedd y Cynghorydd Mackie yn gwneud sylw ar y buddsoddiad mewn cyllidebau ysgol dirprwyol, fel yr amlinellwyd o fewn yr adroddiad a’r cyflwyniad. Dywedodd fod yr £1miliwn ychwanegol a ddyrannwyd o fewn y gyllideb 2021/22 wedi’i groesawu ac roedd yn gwerthfawrogi’n llwyr bod ei ddiben yn gysylltiedig ag argymhelliad Arolwg Estyn bod y gostyngiad mewn diffygion cyllideb ysgol yn cael ei reoli’n fwy effeithiol. Dywedodd nad oedd yn si?r sut fyddai’r pwysau cost £1miliwn ychwanegol ar gyfer cyllideb 2022/23 yn cael ei ddyrannu i ysgolion a gofynnodd pam y teimlwyd bod angen cynnwys £1miliwn ychwanegol.
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod yna ddau ddyraniad £1miliwn, £1miliwn o fewn cyllideb 2021/22 ac £1miliwn bwriedig o fewn cyllideb 2022/23. Roedd yn falch fod y Cyngor mewn sefyllfa i gael arian ychwanegol ar gael o fewn y gyllideb cyn gwneud penderfyniadau ar sut yr oedd yn cael ei wario. Roedd £1miliwn y llynedd ar gyfer 2021/22 yn parhau’r un fath ar gyfer 2022/23 ac roedd y cynigion sut y gallai’r £1miliwn ychwanegol hwn gael ei ddefnyddio o fis Ebrill nesaf. Dywedodd mai ei brif ddiben oedd i gefnogi ysgolion uwchradd gyda diffygion parhaus ac/neu ysgolion uwchradd fyddai’n gallu symud i sefyllfa diffyg cynyddol. Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y swm a roddwyd y llynedd yn gylchol ac roedd yn y gyllideb sylfaen ar gyfer eleni. Byddai’r £1miliwn ychwanegol, os cefnogir, yn cael ei ddefnyddio i leihau diffyg yn unol ag argymhellion Estyn.
Roedd Arweinydd y Cyngor yn adleisio sylwadau’r Prif Weithredwr ac yn egluro y dylai holl Aelodau’r Cyngor benderfynu pa un a fyddai’r £1miliwn ychwanegol arfaethedig yn cael ei gynnwys o fewn cyllideb 2022/23. Dywedodd ei fod yn falch o weld bod y nifer o ysgolion uwchradd mewn sefyllfa cyllideb dros ben yn gwella.
Roedd y Cynghorydd Mackie yn egluro beth fyddai’r £1miliwn a fuddsoddir mewn cyllideb ysgolion dirprwyol yn cael ei ddefnyddio ac yn teimlo bod y wybodaeth hon yn angenrheidiol i alluogi Aelodau i gefnogi proses gosod y gyllideb. Eglurodd y Prif Weithredwr ei bod yn fuan iawn yn y broses gosod y gyllideb ac na fyddai’r £1miliwn o gyllid ychwanegol arfaethedig yn cael ei gynnwys yng nghynigion y gyllideb derfynol os nad oedd yn fforddiadwy. Cyn gosod y gyllideb, byddai gwybodaeth am sut y byddai’r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu yn cael ei darparu i’r holl Aelodau.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor a’r Swyddogion am y drafodaeth fanwl ar y pwysau costau bwriedig a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Yn dilyn trafodaeth ar yr argymhellion a amlinellwyd o fewn yr adroddiad, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi pwysau costau’r portffolio ac nad oedd unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost pellach yn cael eu cynnig. Hefyd, awgrymwyd bod gwybodaeth bellach ar sut mae’r £1miliwn o fuddsoddiad a fwriedir mewn cyllidebau ysgol dirprwyedig yn cael ei dosbarthu i Ysgolion yn cael ei darparu i’r Pwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie gefnogi’r argymhellion fel yr amlinellwyd uchod ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r pwysau costau Portffolio Addysg ac Ieuenctid;
(b) Ni ddylai'r Pwyllgor gynnig unrhyw feysydd arbedion effeithlonrwydd pellach i’w harchwilio ymhellach; a
(c) Bod gwybodaeth bellach ar sut mae’r £1miliwn o fuddsoddiad a fwriedir mewn cyllidebau ysgol dirprwyedig yn cael ei dosbarthu i Ysgolion yn cael ei darparu i’r Pwyllgor.
Awdur yr adroddiad: Amanda Davidson
Dyddiad cyhoeddi: 16/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 16/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: