Manylion y penderfyniad
Internal Audit Progress Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To present to the Committee an update on the progress of the Internal Audit Department.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd ar y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol. Ers yr adroddiad diwethaf, roedd un adroddiad Coch (sicrwydd cyfyngedig) ac roedd wedi’i gynnwys yn nes ymlaen ar y Rhaglen. Ar olrhain camau gweithredu, roedd gostyngiad yn nifer y camau oedd yn hwyr ac roedd ffyrdd eraill o reoli’r rhain yn cael eu hystyried i wneud gwell defnydd o amser swyddogion. Roedd dangosyddion perfformiad ar gyfer y gwasanaeth wedi’u heffeithio gan nifer yr archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod a’r ffocws a roddwyd i’r adroddiad sicrwydd coch.
Ar gais Sally Ellis, byddai’r adroddiad sicrwydd Oren/Gwyrdd ar Foeseg a Gwerthoedd Sefydliadol yn cael ei rannu â’r Pwyllgor. Byddai’r cam gweithredu blaenoriaeth uchel ar hysbysiadau rhai sy’n gadael Cronfa Bensiynau Clwyd, a oedd wedi’i weithredu ar ôl llunio’r adroddiad terfynol, yn cael ei ddiweddaru.
Yn dilyn pryderon a godwyd gan Allan Rainford ar y cam gweithredu hwyr ar Gyflogres 2017/18 a oedd wedi’i ohirio oherwydd problemau capasiti, byddai diweddariad ar gynnydd yn cael ei rannu â’r Pwyllgor.
Cytunai’r Pwyllgor ag awgrym y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y byddai’r adroddiad cynnydd yn cael ei hepgor o gyfarfodydd mis Tachwedd i fod yn adlewyrchiad cywir o ystadegau chwarterol ac o ystyried pa mor agos yw dyddiadau mis Medi a mis Tachwedd.
Ar y sail honno, cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Johnson ac fe’u heiliwyd gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad; a
(b) Derbyn Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol yn chwarterol ym mis Mehefin, Medi, Ionawr a Mawrth.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2022
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Accompanying Documents: