Manylion y penderfyniad

North Wales Economic Ambition Board Annual Report & Q4 Performance

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Quarter 4 (Jan-March) Growth Deal report, updated Portfolio Risk Register and the Portfolio Management Office Annual Report for 2020-21 for the North Wales Economic Ambition Board

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ionawr - Mawrth) y Fargen Dwf, Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolios ar gyfer 2020-21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac atgoffodd yr Aelodau mai set o ymyriadau tymor canolig i’r hirdymor yw Bargen Dwf Gogledd Cymru sy’n gysylltiedig â chryfderau Gogledd Cymru, gan nodi Economi Werdd a Chynhwysol yn benodol a diwydiannau blaengar craidd. Dywedodd ei bod yn rhaglen ranbarthol sy’n cynnig cydbwysedd rhwng y Gorllewin a Dwyrain Canol y rhanbarth. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, a Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau, ac estynnodd wahoddiad i’r ddau roi cyflwyniad ar y cyd i’r Pwyllgor ar Fargen Dwf Gogledd Cymru, a oedd yn ymwneud â’r prif bwyntiau canlynol:

 

  • Portffolio’r Fargen Dwf:
  • y 5 Rhaglen:
    • Rhaglen Ddigidol
    • Rhaglen Tir ac Eiddo
    • Rhaglen Ynni
    • Arloesi yn y Rhaglen Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth
    • Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth
  • Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 (Ionawr-Mawrth 2021) Bargen Dwf Gogledd Cymru
  • Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 2020-21

 

Cyfeiriodd Paul Shotton at lacio cyfyngiadau Covid a gofynnodd a ellid dwyn unrhyw rai o’r prosiectau ymlaen cyn 2023. Gofynnodd hefyd am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect uwchsgilio.  Esboniodd y Rheolwr Gweithrediadau fod y gwaith ar gyflawni’r prosiect yn mynd yn ei flaen mor gyflym â phosibl, serch hynny, prosiectau cyfalaf cymhleth tymor canolig/hirdymor oedden nhw a byddai’n cymryd amser i’w datblygu a’u hadeiladu. Esboniodd y byddem yn debygol o weld buddiannau’r prosiectau gweithredol cyntaf o 2023 ymlaen, serch hynny, disgwylir i’r cyfnodau adeiladu ddechrau tua diwedd 2021/dechrau 2022. Dywedodd y Cyfarwyddwr Portffolio y byddai’r holl fuddsoddiad cyfalaf angen y sgiliau a’r bobl gywir i wasanaethu’r buddsoddiad a soniodd am y gwaith gyda’r bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, diwydiannau, colegau ac ysgolion, o ran y sgiliau a’r cyfleoedd gwaith sydd eu hangen i gadw gwerth yn yr economi leol.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andy Hughes pa strategaethau sydd yn eu lle i hyrwyddo’r Fargen Dwf ymhlith y cyhoedd. Esboniodd y Cyfarwyddwr Portffolio fod gwefan yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac y byddai’n cael ei lansio yn y misoedd nesaf. Bydd y wefan yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr a manylion cyswllt ar gyfer pob prosiect. Yn ogystal â’r wefan, bydd hunaniaeth brand hefyd yn cael ei lansio. Soniodd am yr angen i ddylanwadu ar bobl ifanc a’u hysbrydoli ynghylch y cyfleoedd a’r swyddi uchel eu gwerth y byddai’r Fargen Dwf yn eu creu. 

 

Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn ehangu ei rôl yn y dyfodol er mwyn cael effaith ehangach y tu hwnt i’r Fargen Dwf. Yn nhermau ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r Fargen Dwf, soniodd y byddai diddordeb mawr mewn rhai prosiectau a dywedodd eu bod wedi ymgysylltu’n sylweddol gyda’r sector busnes a’r sector academaidd a byddai hynny’n treiddio trwodd.  Dywedodd fod Gogledd Cymru yn cael ei ystyried yn rhanbarth cydlynol ac uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a dywedodd fod angen magu diddordeb ymhlith budd-ddeiliad a hyrwyddo prosiectau lleol pan fydd popeth ar waith.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at brosiect Caergybi a gofynnodd a fydd buddsoddiad yn cael ei wneud yn yr A55 a thrydaneiddio gwasanaeth trên Caergybi i Gaer. Gofynnodd hefyd a fyddai buddsoddiad yn cael ei wneud mewn cerbydau trydan a chyfeiriodd at gynhyrchu peiriannau yn Toyota ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Esboniodd y Prif Weithredwr y ceir rhaglenni gwaith ar wahân ar gyfer yr A55 a gwasanaethau trên. Dywedodd fod buddsoddiad yn cael ei wneud i wella capasiti tir a chyflymder a bod Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi mewn cerbydau ond nad yw trydaneiddio ar yr agenda ar gyfer Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU ar gyfer rheilffordd Gogledd Cymru ar hyn o bryd gan mai gwella cysylltedd, nifer y trenau ac ansawdd y gwasanaeth yw'r flaenoriaeth. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw’r A55 ac mae nifer o gynlluniau ar waith i wella’r llif ac mae’r Awdurdod yn gobeithio cael cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn lleihau tagfeydd heb orfod creu ffordd newydd nac adeiladu pont newydd yn lle Pont Sir y Fflint.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ragor o fanylion am brosiect Caergybi. Dywedodd ei fod yn gyfnod tyngedfennol i’r gwaith, ac fel rhan o’r Rhaglen Tir ac Eiddo, mae’r cynigion ar gyfer buddsoddi ym mhrosiect Caergybi yn cael eu hadolygu a gall hyn gael effaith ar brosiectau eraill yn y Rhaglen honno.

 

Gofynnodd Patrick Heesom a ellid ystyried y potensial ar gyfer porthladd Mostyn a chyfeiriodd at y pryderon a godwyd ynghylch prosiect Caergybi. Esboniodd y Prif Weithredwr er nad yw Mostyn yn y Fargen Dwf – a’i fod yn talu am ei waith ehangu ei hun – ac felly nad yw’n rhan o’r rhestr gyllid, yr Awdurdod fyddai ei eiriolwr ar gyfer y rhanbarth a Sir y Fflint gan ei fod yn parhau i fod yn borthladd pwysig.

 

Diolchodd y Cynghorydd Glyn Banks i bawb am eu gwaith a mynegodd ei fod yn cefnogi’r Fargen Dwf.Cyfeiriodd at y twf disgwyliedig yn y diwydiant twristiaeth a gofynnodd am ragor o wybodaeth am brosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Portffolio drosolwg o’r prosiect ac esboniodd fod y Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn brosiect wedi’i ddylunio i nodi’r angen am sgiliau yn y byd twristiaeth ac i wella ansawdd gwasanaethau i gwsmeriaid a lletygarwch.  Soniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) pa mor heriol oedd recriwtio i’r diwydiant twristiaeth yn y 12 mis diwethaf.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiadau cynnydd ac adroddiadau ar themâu o ddiddordeb arbennig yn cael eu darparu yng nghyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’i eilio gan y Cynghorydd Paul Shotton. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffoliosar gyfer 2020/21.

Awdur yr adroddiad: Andrew Farrow

Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 06/07/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: