Manylion y penderfyniad

Town Centre Markets

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a report as requested at Committee on 12 May, 2021

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am farchnadoedd lleol yn Sir y Fflint. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Soniodd am heriau ac effeithiau parhaus y pandemig ar farchnadoedd stryd a rhai dan do a busnesau lleol dros y 12 mis diwethaf. Esboniodd fod y Cyngor wedi cefnogi busnesau marchnad yn ystod y pandemig a hyrwyddo pwysigrwydd busnesau lleol a siopa’n lleol i’r trigolion. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n croesawu safbwyntiau Aelodau ar fuddsoddi mwy o arian mewn marchnadoedd stryd lleol.

 

                        Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cwestiynau a gafodd gan fasnachwyr marchnadoedd stryd yn Nhreffynnon a dywedodd nad oedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu trin yr un fath â masnachwyr marchnad yn Yr Wyddgrug a rhoddodd enghraifft.  

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a ellid denu masnachwyr marchnad sy’n llwyddiannus mewn ardaloedd eraill i fasnachu yn Sir y Fflint. Derbyniodd y Prif Swyddog y pwynt ac esboniodd fod rhai marchnadoedd yn cael eu cynnal ar safle parhaol a’u bod ar agor i’r cyhoedd ar fwy o ddyddiau ac am gyfnodau hirach na’r marchnadoedd lleol, serch hynny, gellid edrych yn fanylach ar y posibiliadau. 

 

Yn sgil y pandemig, dywedodd y Cynghorydd Vicky Perfect fod yn well gan nifer o bobl siopa’r tu allan ac yn lleol ac awgrymodd y gellid ystyried ailgyflwyno marchnad yn Y Fflint.

 

Soniodd y Cynghorydd Chris Bithell am y diffyg mannau parcio ar gyfer masnachwyr marchnad yn Yr Wyddgrug a dywedodd fod angen cydweithredu rhwng adran y marchnadoedd a gwasanaethau stryd i ddatrys y problemau presennol. Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i drafod y mater gyda’r meysydd gwasanaeth perthnasol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle pa ffioedd a godir am fasnachu mewn marchnadoedd lleol. Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n dosbarthu copi o ffioedd presennol yr Awdurdod i’r Pwyllgor cyn y cyfarfod nesaf.

 

                        Siaradodd y Cynghorydd Owen Thomas o blaid marchnad Yr Wyddgrug. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a ellid cynnwys Bwcle yn yr adolygiad o’r marchnadoedd presennol yn Sir y Fflint gan obeithio y gellid sefydlu marchnad yn yr ardal honno er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â’r dref.

 

Soniodd y Cynghorydd Bithell bod angen cyflwyno busnesau newydd ac annog entrepreneuriaeth i fasnachu mewn marchnadoedd lleol ac, os byddai’n llwyddiannus, gallai greu cyfleoedd ar gyfer masnach a swyddi parhaol yn yr ardal leol. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Joe Johnson a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Adolygu sefyllfa bresennol y marchnadoedd yn Sir y Fflint a nodi’r gwaith mae’r Cyngor wedi ei wneud i’w cefnogi.

Awdur yr adroddiad: Niall Waller

Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 06/07/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: